Hyder busnesau yn y flwyddyn newydd
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg newydd yn awgrymu bod hyder newydd ym myd busnes ar gyfer 2013 yn dilyn blynyddoedd o wasgfa ariannol.
Mae arolwg chwarterol Siambr Fasnach De Cymru yn dangos bod 48% o fusnesau bach a chanolig eu maint yn disgwyl cynyddu eu helw dros y 12 mis nesaf.
Dywedodd cyfarwyddwr y Siambr, Graham Morgan, bod y farchnad yn parhau yn anodd ond bod busnesau yn "gynyddol hyderus".
Roedd yr arolwg yn holi ystod o fusnesau bach, canolig a mawr am eu profiadau wrth fasnachu dros dri mis olaf 2012.
Y canfyddiad oedd bod dros dri chwarter (76%) o'r rhai oedd yn masnachu dramor wedi gweld naill ai cynnydd neu sefydlogrwydd dros y cyfnod.
Y cwmnïau yma sydd â'r rhagolygon mwyaf optimistaidd ar werthiant yn ôl yr arolwg, ond ar draws Cymru mae rhwng 25% - 33% o fusnesau yn dal i weld busnes yn gwella.
Ychwanegodd Mr Morgan bod y canlyniadau yn cydfynd â'r farn bod yr economi yn parhau yn anodd ond y bydd yn gwella dros y flwyddyn i ddod.
Dywedodd: "Mae'r ffigyrau yma'n cadarnhau'r hyn yr ydym wedi ei weld yng Nghymru, sef cymuned fusnes sy'n gynyddol hyderus ac yn gweld ffigyrau gwerthiant gwell dros y flwyddyn ddiwethaf."
Siopa
Daeth canlyniadau'r arolwg ar yr un diwrnod â chanlyniadau Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC), oedd yn dangos cynnydd bach mewn gwerthiant yn y siopau yn y cyfnod yn arwain at Nadolig 2012.
Roedd y ffigyrau gwerthiant ar gyfer Rhagfyr 2012 0.3% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ac roedd gwerthiant nwyddau ar-lein 17.8% yn uwch na Rhagfyr 2011.
Dywedodd Helen Dickinson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BRC: "Gyda chefndir o ddisgwyliadau isel ac amodau anodd nid yw'r ffigyrau yn achos dathlu ond nid ydynt yn drychineb chwaith.
"Mae'r twf ar gyfer Rhagfyr yn llai na chwyddiant, ac ond yn cyfateb i Ragfyr 2010, pan nad oedd gwerthiant o gwbl am gyfnod oherwydd y tywydd drwg.
"Ond roedd gwerthiant ar-lein yn ardderchog ac yn dangos bod siopwyr yn manteisio ar hwylustod y gwasanaeth."
Ond daeth rhybudd hefyd gan David McCorquodale, o gwmni KPMG, a ddywedodd:
"Fe fydd Ionawr yn fis anodd i'r manwerthwyr wrth i gwsmeriaid wynebu biliau cardiau credyd wedi'r Nadolig, ac mae'n debyg y bydd mwy o'r un peth yn ystod 2013.
"Mae hyder yn isel ymysg cwsmeriaid gan wneud bywyd yn anodd i'r manwerthwyr yn y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011