Busnesau bach Cymru'n colli hyder
- Cyhoeddwyd
Mae hyder ymhlith busnesau bach yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isa' ers diwedd y llynedd, yn ôl arolwg newydd.
Dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach fod sefyllfa heriol y wlad, ynghyd â diffyg cyllid a gostyngiad yn y galw gan gwsmeriaid wedi cael effaith ar fusnesau ar draws y DU.
Mae hyder yng Nghymru yn is nag yn unrhyw ardal arall o'r DU, heblaw am Ogledd Iwerddon, er bod nifer o gwmnïau'n gobeithio ehangu.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beio'r banciau am y diffyg twf.
Dywed y Ffederasiwn fod busnesau bach yn parhau i ymdopi'n weddol, gyda hanner o'r 2,600 a holwyd yn y DU eisiau tyfu dros y 12 mis nesa'.
Ond mae'r ymchwil hefyd wedi darganfod y gallai unrhyw dwf o'r fath fod dan fygythiad oherwydd bod nifer cynyddol o fusnesau'n methu â benthyg arian.
Dywedodd y Ffederasiwn eu bod yn croesawu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i sefydlu banc busnes o dan reolaeth y wladwriaeth, fyddai'n mynd i'r afael â'r broblem benthyca.
'Help llaw'
Maen nhw'n galw am ddefnyddio'r Weinyddiaeth Busnesau Bach yn America fel enghraifft sydd, yn ôl y Ffederasiwn, wedi helpu cwmnïau bychain i gael gafael ar gyllid trwy amrywiaeth o fenthyciadau.
Dywedodd Janet Jones, cadeirydd uned polisi Cymru'r Ffederasiwn: "Mae'r neges yn glir - mae busnesau eisiau tyfu a buddsoddi ond maen nhw angen help llaw i wneud hynny.
"Mae'n rhwystredig ei bod hi'n dal yn anodd cael arian gan y banciau."
Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru "chwarae rhan" yn sicrhau bod ganddynt eu ffynonellau cyllid eu hunain i helpu busnesau sydd ei angen.
"Mae bywoliaeth pobl y tu ôl i'r ystadegau yma heddiw," ychwanegodd.
"Y perchnogion busnes yma yw'r rhai mentrus sy'n mynd i greu swyddi yng Nghymru ac mae'n bryder eu bod yn teimlo'n gynyddol ddi-hyder am eu hamgylchedd busnes."
Dangosodd ystadegau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod diweithdra wedi gostwng 7,000 yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin - i 126,000.
Yr wythnos ddiwetha' awgrymodd arolwg gan gwmni recriwtio Manpower fod cyflogwyr yn fwy optimistaidd am gyflogi staff newydd yng Nghymru nag ar unrhyw adeg arall ers 2007.
Dywedodd fod y diwydiant yswiriant yn arwain y ffordd, gyda swyddi newydd yn cael eu creu mewn canolfannau galw.
Yn gynharach y mis yma, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod diwydiant Cymru'n diodde' oherwydd cyfalaf, a thra ei bod yn hollbwysig i'r llywodraeth helpu'r economi, dywedodd mai'r banciau oedd ar fai am y diffyg twf.
Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru: "Mae busnesau'n dweud wrthyf nad ydynt yn gallu cael gafael ar gyfalaf i ehangu, nad yw'r banciau'n fodlon benthyca iddynt - mae'n broblem fyd-eang.
"Tan ein bod yn gweld gwell llif cyfalaf i bobl sydd â syniadau da, bydd rhai ohonynt yn cael cyllid - ond bydd y rhai sydd ddim yn cael ar y dechrau yn cael trafferth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd15 Awst 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012