Cymru yn 'arwain y ffordd' o ran band eang
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau o geisio sicrhau bod gan Gymru gysylltiad band eang o safon ryngwladol.
Bydd miloedd ar filoedd o filltiroedd o geblau opteg ffibr uwch gyflym yn cael eu gosod mewn wyth ardal ar draws y wlad - Glyn Ebwy, Tredegar, Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog a Phwllheli.
Mae'n golygu y bydd gan 32,000 o gartrefi a busnesau gysylltiad cyflymach o lawer i'r we, gyda disgwyl i'r cwsmeriaid cynta' fod wedi'u cysylltu erbyn diwedd Mehefin.
Mae'r cyfan yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru'n anelu at sicrhau bod 96% o gartrefi a busnesau'r wlad yn gallu elwa.
Eisoes mae'r gwaith yn mynd rhagddo ym Mangor, a bydd y peirianwyr yn symud wedyn i Sir Fôn.
'10 gwaith yn gyflymach'
Y nod, yn ôl Llywodraeth Cymru, yw sicrhau bod Cymru'n flaengar yn y maes yn hytrach nac ar ei hôl hi.
"Mi fydd o 10 gwaith yn gyflymach na'r cyflymder cyflyma' sydd ar gael rwan, felly mae'n dipyn o welliant. Mi fydd hyn yn dod â speeds Cymru i fyny hefo'r rhai gorau yn y byd", meddai Mei Gwilym, sy'n arbenigwr ar y rhyngrwyd.
Bydd peirianwyr yn gosod 17,500 cilometr o geblau opteg ffibr a thua 3,000 o flychau band eang newydd mewn strydoedd ar hyd Cymru.
Mae disgwyl i gwsmeriaid allu cael cyflymderau o hyd at 80 megabeit yr eiliad, a bydd rhai ardaloedd yn gallu cael cysylltiad uwch gyflym o 330 megabeit yr eiliad, gyda busnesau yn gallu uwchraddio i gyflymder hyd yn oed yn uwch.
Mae'r cynllun, sy'n costio dros £425 miliwn, yn cael ei weithredu ar y cyd rhwng y llywodraeth a chwmni BT.
Mae cyfran helaeth o'r arian yn dod o'r pwrs cyhoeddus.
Meddai Ann Beynon, Cyfarwyddwraig BT Cymru: "Ledled Prydain 'da ni'n gweld nifer o awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus - Gogledd Iwerddon, er enghraifft, fel llywodraeth ddatganoledig hefyd wedi penderfynu nad ydy'r farchnad yn mynd i allu fforddio cwrdd â'r angen - yn arbennig mewn ardaloedd difreintiedig ac ardaloedd gwledig.
"Felly mae pawb wedi dod i'r un canlyniad i ddweud y gwir. Heb arian cyhoeddus, dydy hwn ddim yn mynd i ddigwydd."
Rhannau o'r gogledd a chymoedd Gwent sy'n elw gyntaf o'r cynllun yma - ond y bwriad yw ei ymestyn i bob rhan o Gymru erbyn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012