Ken Owens i aros gyda'r Scarlets tan 2016
- Cyhoeddwyd
Bydd bachwr Cymru Ken Owens yn chwarae dros y Scarlets tan o leiaf 2016 wedi iddo ehangu ei gytundeb gyda'r rhanbarth.
Owens, 26 oed, fydd dewis cyntaf y Scarlets yn safle'r bachwr y tymor nesaf oherwydd y bydd Matthew Rees yn ymuno â'r Gleision yn ystod yr haf.
Mae Owens, wedi chwarae dros Gymru 14 tro ers ei gêm gyntaf yn erbyn Namibia ym mis Medi 2011.
Daeth oddi ar y fainc i gymryd lle Richard Hibbard yn y rheng flaen wrth i Gymru guro'r Alban 28-18 ddydd Sadwrn.
"Rwyf am barhau i chwarae yng Nghymru ac rwyf ar ben fy nigon i aros gyda'r rhanbarth sydd wedi cynnal fy ngyrfa rygbi hyd yn hyn," meddai Owens, sydd wedi cynrychioli'r rhanbarth 135 o weithiau er 2006.
Mae penderfyniad Owens i aros ym Mharc y Scarlets yn hwb i'r rhanbarth wedi i'r maswr ifanc Owen Williams benderfynu gadael y Scarlets gan chwarae dros Gaerlŷr y tymor nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013