Alun Wyn Jones yn gapten yn lle Sam Warburton?
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-flaenasgellwr Cymru, Martyn Williams, yn credu mai Alun Wyn Jones ddylai arwain Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn os bydd Ryan Jones yn dal wedi'i anafu.
Mae 'na amheuaeth a fydd Ryan Jones yn barod ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Mileniwm i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn ar ôl iddo gael anaf i'w ysgwydd yn y fuddugoliaeth dros Yr Alban ddydd Sadwrn.
Bydd Cymru angen o leia' saith pwynt yn erbyn Lloegr am gyfle i amddiffyn teitl y bencampwriaeth.
Yn ôl Williams, Alun Wyn Jones ddylai gael ei ddewis yn gapten, nid Sam Warburton, os na fydd Ryan Jones ar gael.
"Mi fyddwn i'n dewis Alun Wyn yn gapten yr wythnos nesa' os na fydd Ryan yn barod," meddai.
"Byddai'n tynnu'r pwysau oddi ar Sam...Dywedodd Rob Howley ei hun ei fod wedi cael misoedd caled.
"Mae angen gadael i Sam ganolbwyntio ar ei gêm.
"Mae 'na ddigon o sôn yn mynd i fod yn y cyfryngau'r wythnos hon ac [mi ddylai Sam] ganolbwyntio ar wneud beth wnaeth o [yn erbyn Yr Alban] a meddwl am ei gêm ei hun."
Warburton
Roedd y clo Alun Wyn Jones a Warburton wedi dechrau yn erbyn Yr Albanwyr a chafodd Warburton ei enwi'n seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 28 i 18 ym Murrayfie
Wnaeth Warburton ddim dechrau yn erbyn Ffrainc na'r Eidal ond cafodd ei ddewis yn lle Justin Tipuric ddydd Sadwrn.
Er bod Warburton wedi dychwelyd, parhaodd Ryan Jones fel capten, wedi iddo arwain y tîm yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Ond mae 'na amheuaeth dros ei ffitrwydd ar gyfer y gêm yn erbyn gêm ola'r bencampwriaeth wedi iddo anafu ei ysgwydd yn gynnar yn yr ail hanner.
Mae Williams, enillodd 100 o gapiau dros Gymru, yn pryderu na fydd ar gael.
Amddiffyn teitl
"Mi fyddwn i wedi fy synnu petai'n ffit i chwarae chwe diwrnod ar ôl cael anaf i'w ysgwydd," meddai wrth BBC Cymru.
"Dy'ch chi byth yn gwybod gyda ffisiotherapi a phigiadau."
Wedi i Loegr guro'r Eidal yn Twickenham o 18-11 ddydd Sul, byddai buddugoliaeth yn erbyn Cymru yn sicrhau Camp Lawn iddyn nhw - y cynta' mewn degawd.
Ond petai Cymru'n ennill o wyth pwynt neu fwy, a sicrhau eu bod yn sgorio mwy o geisiau na Lloegr yn y bencampwriaeth, tîm Rob Howley fyddai'n amddiffyn y teitl.
Bydd ennill o 7 pwynt yn gweld Cymru'n cadw'u gafael ar y bencampwriaeth am gael mwy geisiau oni bai bo' Lloegr yn cael dau neu fwy o geisiau, bryd hynny fe fydd Cymru a Lloegr yn rhannu'r teitl.
Mae Williams, enillodd Gamp Lawn yn 2005 a 2008, yn obeithiol dros Gymru.
"Rwy'n credu y byddwn ni'n curo ac rwy'n credu y byddwn yn ennill y bencampwriaeth," meddai.
"Rwy'n credu y bydd yn rhaid iddyn nhw newid y ffordd maen nhw'n chwarae gan y bydd Lloegr yn her iddyn nhw yn y gorfforol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2013