Hwb o £40,000 i Ganolfan Dylan Thomas ehangu a moderneiddio

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Dylan Thomas Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na bryder am ddyfodol y ganolfan yn Abertawe yn ddiweddar

Yn 2014 fe fydd hi'n 100 mlynedd ers geni'r bardd o Abertawe, Dylan Thomas.

Mae 'na gynlluniau mawr ar y gweill i nodi'r achlysur, gan gynnwys blwyddyn o ddigwyddiadau ar draws Cymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wedi wynebu dyfodol ansicr.

Ond ar drothwy'r canmlwyddiant, mae 'na hwb i gynlluniau i ailddatblygu'r ganolfan a'i throi yn arddangosfa ddysgu drwy ddulliau rhyngweithiol o safon fyd-eang.

Maen nhw wedi derbyn grant o £40,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Fel rhan o'r digwyddiadau mae 'na apêl am atgofion pobl o'r bardd.

Gweledigaeth

Bydd rhywfaint o'r grant yn mynd tuag at ymchwilio i'r rhai sy'n dal yn fyw oedd yn adnabod Thomas er mwyn "sicrhau bod yr atgofion yn cael eu cadw i'r dyfodol".

Bu farw'r bardd ym mis Tachwedd 1953 yn 39 oed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na 50 mlynedd eleni ers i Dylan Thomas farw a'r flwyddyn nesaf bydd yn 100 mlynedd ers ei eni

Dywedodd ei wyres, Hannah Ellis, bod y grant yn mynd i roi cyfle i'r ganolfan wireddu ei gweledigaeth o foderneiddio'r arddangosfa a sicrhau ei bod yn datblygu.

"Fe fydd o gymorth iddyn nhw gysylltu gyda'r cymunedau lleol a mudiadau yn ogystal â phobl o bob oed a chefndir," meddai.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys deunydd archif, llawysgrifau prin, gwaith celf, lluniau, llyfrau a chlipiau sain gwreiddio.

Ar hyn o bryd dim ond 140 o'r 950 o eitemau sydd gan y Ganolfan sy'n cael eu harddangos.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio er mwyn gallu ehangu hynny.

"Ers cael cytundeb hirdymor gyda Phrifysgol Cymru i gadw'r arddangosfa bu'n sail i ni wneud cais i'r Gronfa i ariannu'r datblygiad yma," meddai Iwan Davies o Gyngor Sir Abertawe.

"Rydym am foderneiddio'r arddangosfa sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus a phoblogaidd a rhoi cyfle i ddangos mwy o'r eitemau."

Mae'r Gronfa yn y gorffennol wedi buddsoddi £820,000 i adfywio Parc Cwmdonkin yn Abertawe a oedd yn ffynhonnell bwysig i'r bardd ar gyfer ei gerdd, The Hunchback in the Park.

Mae'r gwaith hynny i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol