'Dangos diwylliant Cymru i'r byd'

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Thomas, a fu farw yn 1953, yw un o enwau enwocaf llenyddiaeth Cymru drwy'r byd

Fe fydd cynllun i ddangos gwaith Dylan Thomas ar draws y byd yn cael ei gyhoeddi gan Gyngor Prydeinig Cymru.

Bydd y cynllun dwy flynedd yn ceisio dod â gwaith y dramodydd a'r llenor i gynulleidfa ryngwladol.

Fe fydd gweithdai barddoniaeth, drama a pherfformiadau cerddorol yn cael eu cynnal yn India, Yr Unol Daleithiau, Awstralia, Ariannin a Chanada.

Mae'r gweithgareddau'n rhan o Dylan Thomas 100, digwyddiad i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth Thomas yn 2014.

Enw'r cynllun fydd 'Starless and Bible Black' - sef un o linellau Dan y Wenallt o waith Thomas.

Mae'r Cyngor Prydeinig yn hybu'r berthynas ddiwylliannol rhwng y DU a gwledydd eraill o amgylch y byd.

'Archwaeth'

Dywedodd cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru, Simon Dauncey, ei fod am "ddangos diwylliant Cymru i weddill y byd".

"Mae archwaeth am ei waith yn barod, ond roeddem am dorri tir newydd mewn lleoedd fel India ac Ariannin.

"Mae gennym eisoes gysylltiadau gydag Ariannin mewn lleoedd fel Patagonia, ond rydym am ehangu'r cysylltiadau hynny hefyd."

Dywedodd Mr Dauncey wrth BBC Radio Wales bod y cynllun yn gyfuniad o ddau beth.

"Cysylltiadau diwylliannol yw un o hanfodion y Cyngor Prydeinig. Ein nod yw mynd â Chymru i'r byd a'r byd i Gymru.

"Rydym yn gobeithio dangos rhai o sefydliadau gorau Cymru i'r byd, ond hefyd i bobl Cymru gael profi beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd."

Ychwanegodd y bydd y cynllun yn edrych yn ôl ar waith Dylan Thomas, ond hefyd yn edrych ymlaen drwy ddefnyddio artistiaid cyfoes i ddehongli ei waith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol