Maenordy Llancaiach Fawr yn derbyn bron i £1m

  • Cyhoeddwyd
Llancaiach FawrFfynhonnell y llun, Llancaiach Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i'r hen lety fod ar agor i'r cyhoedd sy'n ymweld â Llancaiach Fawr

Mae Maenordy Tuduraidd ac atyniad ymwelwyr ger Caerffili wedi derbyn £943,200.

Caiff cyn-Lety Gweision Llancaiach Fawr yn Nelson, sydd wedi bod yn guddiedig hyd yma, ei agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed.

Adeiladwyd y maenordy yn 1550 ac mae'n cael ei ystyried i fod yn un o'r tai Uchelwyr pwysicaf i fod wedi goroesi o'r cyfnod yn ystod y 16eg a'r 17eg Ganrif.

Diolch i'r arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), bydd ymwelwyr nawr yn gallu byw bywyd ar ddwy ochr cymdeithas yn y Maenordy sy'n adeilad rhestredig Gradd l*.

Y gobaith yw y bydd Llancaiach Fawr yn denu 80,000 o ymwelwyr erbyn 2020 trwy wella hygyrchedd a dehongli yno.

Delweddau digidol

Bydd y grant, a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi'r prosiect, yn ariannu adnewyddu to carreg, cael gwared â nodweddion modern anaddas ac atgyweirio ac agor y groglofft hen Lety'r Gweision.

Bydd tŵr grisiau allanol a lifft platfform hefyd yn cael ei godi er mwyn galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i gael mynediad i'r lloriau uwch.

Yn ogystal â gwaith cadwraeth, bydd y Maenordy hefyd yn cael budd o ddehongliadau corfforol a synhwyraidd gwell, yn cynnwys tanau agored, sain a goleuo, i greu awyrgylch bywyd cartref yn y 17eg Ganrif a darparu gwell profiad i bobl sydd ag anawsterau dysgu.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys datblygu archif ac arddangosfa gyda myfyrwyr Bagloriaeth Cymru o Ysgol Cwm Rhymni, a chreu taith ddehongli ar ffilm a delweddau digidol 360º o'r tu fewn gyda myfyrwyr o Brifysgol Morgannwg.

Hyfforddiant ymarferol

Bydd myfyrwyr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru a myfyrwyr adeiladu o Goleg Morgannwg yn derbyn lleoliadau hyfforddi ymarferol yn y Maenordy i ennill sgiliau cadwraeth.

Gyda'r grant hefyd bydd modd ariannu Swyddog Datblygu ac Allgymorth, fydd yn gyfrifol am reoli gweithgareddau cymunedol, datblygu sgiliau'r gwirfoddolwyr presennol a denu cynulleidfaoedd newydd.

Bydd hyfforddiant mewn sgiliau tebyg i ddehongli mewn gwisgoedd, cynllunio gwisgoedd hanesyddol a rheoli digwyddiadau a gweithdai'n cael ei gynnig i tua 30 o wirfoddolwyr.

Dywedodd Diane Walker, Rheolwr Cyffredinol Maenordy Llancaiach Fawr ac arweinydd prosiect ar gyfer y cynlluniau i wella'r profiad i ymwelwyr yn y Maenordy: "Pan ddechreuon ni'r gwaith ar y prosiect, roedden ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn adrodd hanes llawn y bobl fu'n byw ac yn gweithio yno.

"Ond hefyd roedden ni eisiau sicrhau y gallai pawb oedd yn dymuno archwilio'r lle arbennig hwn wneud hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol