Ceidwadwyr yn galw am ddatganoli pontydd Hafren

  • Cyhoeddwyd
Pont Hafren
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 80,000 o gerbydau'r dydd yn defnyddio'r pontydd yn ddyddiol

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rheolaeth o bontydd Hafren.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig gostwng y tollau neu eu cadw ar y lefel bresennol, gan wario'r elw ar gynnal a chadw'r pontydd.

Cwmni preifat sy'n cynnal y pontydd a'r gred yw bod y consesiwn yn dod i ben tua 2018.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhaid iddyn nhw gael rheolaeth ar y pontydd os ydyn nhw o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Fe fydd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Byron Davies, yn cyflwyno'r cynigion am ddyfodol y pontydd yn ei araith ddydd Gwener.

'Twf economaidd'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tollau yn codi dros £6 ar geir sy'n dod i mewn i Gymru

"Mae datganoli'r pontydd a dyfodol y tollau â photensial gwirioneddol i helpu modurwyr sy'n wynebu caledi ariannol - ac yn golygu buddsoddiad mawr mewn seilwaith a hybu twf economaidd," meddai.

Y cwmni sy'n rheoli'r pontydd yw Severn River Crossings ac mae tua 80,000 o gerbydau yn defnyddio'r pontydd yn ddyddiol.

Bydd consesiwn y cwmni yn dod i ben pan fydd arian sy'n cael ei gasglu o'r tollau yn cyrraedd £996 miliwn ar bris 1989, ac mae 'na ddisgwyl y bydd hyn yn 2018.

Mae adroddiad, dolen allanol i Lywodraeth Cymru y llynedd yn dweud y byddai dileu'r tollai yn cynyddu'r traffig 12%, cynnydd o tua 11,000 o gerbydau'r dydd.

Dywedodd hefyd fod busnesau a theithwyr yn gwario £80 miliwn y flwyddyn yn croesi'r pontydd.

Y gost i yrwyr ceir yw £6.20.

Mae gyrwyr faniau a bysiau mini yn talu £12.40 tra bod gyrwyr lorïau a bysus yn talu £18.60.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol