David Jones yn dychwelyd yn gynt o Japan i bleidleisio ar Leveson
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn dychwelyd yn gynt na'r disgwyl o daith fasnach i Asia ar gyfer pleidlais ar reoli'r wasg.
Dywedodd Mr Jones y bydd yn dod â'i gyfarfodydd i ben yn Tokyo, gan ddychwelyd i Brydain dros y penwythnos.
Mae'n golygu y bydd yn ôl yn Nhŷ'r Cyffredin ar gyfer y bleidlais allweddol ddydd Llun.
Fe ddaw hyn ar ôl cyhoeddiad gan y Prif Weinidog David Cameron bod trafodaethau rhwng arweinwyr y pleidiau ar argymhellion Adroddiad Leveson wedi methu.
Fe gyrhaeddodd Mr Jones Japan ddydd Mercher i gychwyn y daith fasnach i'r Dwyrain Pell.
Roedd disgwyl iddo ymweld â Fietnam, Y Philippins a Hong Kong cyn dychwelyd adref ar Fawrth 24.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru eu bod mewn trafodaethau i weld a fydd yn parhau gyda'r daith rhywbryd eto.
'Gwasg rydd'
Ddydd Gwener fe wnaeth ymweld â safle adeiladu gorsaf niwclear newydd gan alw ar gwmnïau o Brydain i "fuddsoddi yn y diwydiant niwclear".
"Mae cael gwasg rydd yn gwbl allweddol i'n cymdeithas a dwi'n gwbl gefnogol i'r prif weinidog ar y mesur mae'n ei gymryd i sicrhau y bydd system o reoli'r wasg yn gweithio," meddai.
"O ganlyniad, fe fyddaf yn gorffen fy nghyfarfodydd gyda Hitachi yn Tokyo, cyn dychwelyd ar gyfer y bleidlais bwysig."
Fe wnaeth Mr Cameron ddod â'r trafodaethau trawsbleidiol i ben ddydd Iau a bydd pleidlais ar ei gynigion ddydd Llun.
Mae disgwyl i'r Blaid Lafur gyflwyno gwelliannau, gwelliannau mae disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol eu cefnogi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012