Cyfarfod i drafod ysgol dan fygythiad ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth (cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni'r ysgol Gymraeg yn poeni am effaith cau ar iaith yr ardal

Bydd grŵp ymgyrchu sy'n brwydro i atal ysgol gynradd ym Mhowys rhag cau yn cynnal cyfarfod cyhoeddus lle bydd aelod y cabinet sy'n gyfrifol am addysg yn trafod y penderfyniad i gau'r ysgol.

Nos Fawrth fe fydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet Dysgu a Hamdden Cyngor Powys, yn cyfarfod ag aelodau cymuned Carno i esbonio pam fod yr awdurdod lleol am gau ysgol y pentref.

Ym mis Ionawr cymeradwyodd Cyngor Powys gais i ddechrau proses gau Ysgol Carno ac Ysgol Llandinam yn Sir Drefaldwyn.

Y nod yw cau ysgolion Carno a Llandinam am sawl rheswm, gan gynnwys y gost uchel o ddysgu pob disgybl a gormod o leoedd gwag.

Ond mae rhieni plant yn Ysgol Carno, sy'n ysgol Gymraeg, yn honni y byddai cau'r ysgol yn cael effaith andwyol ar iaith a diwylliant yr ardal.

'Esbonio'

Dywedodd Rhiannon Snape, aelod o'r grŵp Ysgol Carno SOS: "Rydym am i Ms Alexander esbonio ei rhesymau am gau ysgol lle mae nifer y plant ar y gofrestr wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf a lle mae'r gost o addysgu disgybl yn llai na chyfartaledd y sir.

"Hefyd mae'r ysgol wedi derbyn yr adroddiad Estyn gorau ond yn un yn y dalgylch.

"Felly rydym am iddi esbonio pam mae'n meddwl y bydd disgyblion yn cael gwell profiad o addysg Gymraeg yn Llanbrynmair.

"Rwy'n siŵr fe fydd hi'n noson ddiddorol."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Ms Alexander am ei sylwadau ynglŷn â'r mater.

"Gwybodaeth gamarweiniol"

Ar ddechrau mis Mawrth honnodd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg fod Cyngor Powys am ddefnyddio "gwybodaeth gamarweiniol" mewn ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgol Gynradd Carno.

Yn ôl RhAG, mae'r cynigion wedi'u selio ar wybodaeth sy'n dyddio'n ôl i Ionawr 2012 - sydd "ddim yn adlewyrchu'r twf diweddar o 84% yn niferoedd y disgyblion a'r gostyngiad dilynol yn nifer y lleoedd gwag a chost addysg fesul disgybl".

Daeth y cais fel rhan o adolygiad ysgolion yn ardaloedd Machynlleth a Llanidloes ddechreuodd yn 2010.

Dywedodd adroddiad gerbron y cabinet fod 37 o blant ar gofrestr Ysgol Carno yn 2012 a 38 yn Llandinam.

Yn ôl Ysgol Carno SOS mae'r nifer yn yr ysgol hon wedi codi i 44 ers hynny.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod Ysgol Carno mewn adeilad dros dro ers 1995 a bod yr adeilad yn anaddas ar gyfer dysgu.

Clywodd y cyfarfod mai cost addysgu disgybl yng Ngharno oedd £4,208 a'r gost yn Llandinam oedd £4,255.

Roedd hyn yn uwch na throthwy'r cyngor, 10% yn fwy na £3,603.

Yn ôl yr adroddiad, mae gan y ddwy ysgol leoedd gwag sy'n uwch na tharged y cyngor sir o 85% i 105%.

Pum milltir

Y nod yw trosglwyddo disgyblion Ysgol Carno i Ysgol Llanbrynmair, bum milltir i ffwrdd, a throsglwyddo disgyblion Ysgol Llandinam i Ysgol Caersws, dair milltir i ffwrdd.

Roedd Ysgol Llanbrynmair dan fygythiad hefyd ond, yn ôl yr adroddiad, "gellid dadlau y byddai cau dwy ysgol Gymraeg mewn ardaloedd gwledig cyfagos yn andwyol i ddyfodol yr iaith yn y cymunedau hynny".

Bydd Cabinet Cyngor Powys yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad anffurfiol ym mis Ebrill.

Mae'r ymgynghoriad ffurfiol yn debygol o ddod i ben ym mis Gorffennaf.

Os yw'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo gan y cyngor fe fydd Ysgolion Carno a Llandinam yn cau ym mis Awst 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol