Lleisio barn ar ddyfodol ysgol Gymraeg yng Ngharno
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na dros 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngharno nos Fawrth i drafod dyfodol ysgol gynradd y pentref.
Fis Ionawr, fe gefnogodd cabinet cyngor Powys argymhelliad i gau'r ysgol Gymraeg yno, gan ddweud bod gormod o leoedd gwag ynddi, a bod cyflwr yr adeilad yn annerbyniol.
Ond mae cefnogwyr yn dweud y byddai cau'r ysgol yn ergyd ddifrifol i'r iaith.
Roedd y cynghorydd Myfanwy Alexander, aelod cabinet dysgu a hamdden cyngor Powys, yn y cyfarfod nos Fawrth i esbonio pam fod yr awdurdod lleol am gau'r ysgol.
Ym mis Ionawr cymeradwyodd y cyngor gais i ddechrau proses gau Ysgol Carno ac Ysgol Llandinam yn Sir Drefaldwyn.
Y nod yw cau ysgolion Carno a Llandinam am sawl rheswm, gan gynnwys y gost uchel o addysgu pob disgybl a nifer y lleoedd gwag.
Lleoedd gwag
Wedi'r cyfarfod nos Fawrth, dywedodd David Rowlands o Garno:
"Mae lleoedd gwag yn disgyn - ry'n ni wedi gweld hynny gyda'r ffigurau ac mae costau'r disgyblion yn disgyn hefyd.
Dywedodd y cynghorydd Alexander y byddai'r cyngor yn ailedrych ar yr ystadegau i sicrhau eu bod yn cydfynd â'r rhai yr oedd ymgyrchwyr yn cyfeirio atynt.
Ar hyn o bryd, mae disgyblion Ysgol Carno yn cael eu dysgu mewn caban pren gan nad oes adeilad parhaol.
Dywedodd Rhiannon Snape, aelod o'r grŵp Ysgol Carno SOS:
"Dyw'r plant ddim yn poeni am y caban - maen nhw'n poeni am yr athrawes sy'n eu dysgu nhw. Maen nhw'n hapus ac maen nhw'n gyfforddus."
Effaith ar iaith
Codwyd nifer o bryderon nos Fawrth am ddyfodol yr iaith Gymraeg yn y pentre' petai'r ysgol yn cau.
Yn ôl Ms Snape: "Mi fydd yn mynd ar goll, bydd yr iaith yn mynd o'r pentre' yma. O weld yr henoed yn y ganolfan, maen nhw i gyd yn poeni am golli'r iaith yn y pentre'.
"Ie, bydd rhai plant yn gallu mynd i Ysgol Llanbrynmair, ond bydd rhai'n mynd i Gaersws sy'n Saesneg i gyd a Dyffryn Trannon, sy'n hanner Cymraeg a hanner Saesneg.
"Felly fydd 'na ddim iaith Gymraeg yng Ngharno dwi'n siwr."
Mewn ymateb i sylwadau'r ymgyrchwyr, dywedodd y cynghorydd Alexander:
"Dwi'n meddwl mai'r peth sydd wedi gwneud yr argraff fwya' arna' i ydy'r ystadegau sydd gan y grŵp sydd eisiau arbed yr ysgol, yn sôn am y twf yn y niferoedd dros y pum mlynedd nesa'. Mae'n bwysig cymryd hyn i ystyriaeth.
"Dwi yn mynd i fynd yn ôl ac ailedrych ar y ffigurau sy' gynnon ni yn y cyngor sir i sicrhau bod gwybodaeth yr ardal yn union fel y wybodaeth sydd gynnon ni.
Ymgynghoriad anffurfiol
Mater arall a godwyd yn y cyfarfod oedd y posibilrwydd o ffurfio ffederasiwn y tu allan i Garno gydag Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, ac ysgolion cynradd eraill yr ardal o bosib.
Dywedodd y cynghorydd Alexander: "Hwn oedd y tro cynta' i rywun awgrymu hyn i mi, felly dwi yn mynd i roi hwn i mewn i'r system. Ond mae'n rhaid bod yn onest, dydy'r ffederasiwn ddim yn arbed llawer iawn o bres."
Roedd y cyfarfod nos Fawrth yn rhan o ymgynghoriad anffurfiol ar ddyfodol Ysgol Carno.
Bydd cabinet cyngor Powys yn ystyried y canlyniadau ym mis Ebrill ac mae disgwyl i'r ymgynghoriad ddod i ben ym mis Gorffennaf.
Petai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo gan y cyngor, byddai Ysgolion Carno a Llandinam yn cau ym mis Awst 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012