Halfpenny yw chwaraewr gorau'r Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Leigh Halfpenny
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Leigh Halfpenny 74 o bwyntiau yn y bencampwriaeth eleni

Leigh Halfpenny oedd chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn pleidlais ymysg y cyhoedd.

Enillodd cefnwr Cymru 40% o'r bleidlais i olynu Dan Lydiate fel chwaraewr gorau cystadleuaeth 2012.

Fe wnaeth 80,000 o bobl bleidleisio, ac roedd hynny deirgwaith cymaint â'r llynedd.

Am y tro cyntaf yn 2013, fe luniwyd y rhestr fer gan ddefnyddio cyfuniad o ystadegau technegol a barn y cefnogwyr ar wefannau cymdeithasol er mwyn llunio rhestr oedd yn adlewyrchu'r farn gyhoeddus.

Alessandro Zanni ddaeth yn ail gyda 11% o'r bleidlais, gyda Stuart Hogg o'r Alban yn drydydd gyda 8%.

Sgoriodd Halfpenny 74 o bwyntiau i Gymru mewn cyfanswm o 400 munud o chwarae wrth i Gymru gipio'r bencampwriaeth am y pedwerydd tro mewn naw mlynedd.

Dywedodd Halfpenny: "Fedra i ddim diolch yn ddigonol i'r bobl wnaeth bleidleisio drosof i.

"Mae'n fraint ac anrhydedd i gael fy newis fel chwaraewr gorau'r gystadleuaeth, ac i fod yng nghanol yr enwau mawr eraill ar y rhestr fer.

"Mae'n goron ar flwyddyn anhygoel i Gymru, ac mae'n fraint cael bod yn rhan o grŵp mor neilltuol o bobl."