Llong â chyflenwad nwy yn cyrraedd Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Y ZargaFfynhonnell y llun, South Hook LNG
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Zarga yn cludo 266,000 metr ciwbig o nwy hylifol naturiol

Roedd 'na rywfaint o ryddhad yn hwyr nos Lun wrth i long nwy anferth gyrraedd porthladd Aberdaugleddau.

Roedd tancer y Zarga, o Qatar, yn cynnig hwb amserol i gyflenwadau nwy Prydain.

Mae cyflenwadau wedi bod o dan bwysau o ganlyniad i'r tywydd oer anarferol yn ddiweddar.

Mae'r pris y mae Prydain yn ei dalu am nwy wedi gostwng ychydig a hynny'n rhannol am fod disgwyl i'r llong gyrraedd Cymru.

Fe wnaeth y llong Zarga, sy'n cludo 266,000 o fetrau ciwbig o nwy hylifol naturiol, gyrraedd Aberdaugleddau yn hwyr nos Lun.

12 awr

Y gred yw bod y nwy sy'n cael ei gludo yn gallu cwrdd â gofynion nwy'r DU am hyd at 12 awr.

Cyrhaeddodd llong arall, y Mekaines, oedd hefyd yn cludo 266,000 o fetrau ciwbig o nwy, derfynell yn Swydd Caint ddydd Sul.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwadu adroddiadau papur newydd y gallai cyflenwad nwy'r DU ddod i ben o fewn dyddiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd: "Mae cyfnodau hir o dywydd oer yn cynyddu'r galw am nwy ond mae gofynion nwy'r DU yn dal yn cael eu cyflenwi."

Yn ôl Julian Lee, Uwchddadansoddwr Ynni'r Ganolfan Astudiaethau Ynni Byd-eang: "Ddylwn ni ddim poeni. Mae'r sefyllfa'n dangos strategaeth nwy'r DU ar waith.

'Codi bwganod'

"Rydyn ni wedi bod yn adeiladu terfynellau LNG ac mae'r system yn gweithio am ein bod yn gallu mewnforio nwy LNG pan fo angen."

Dywedodd fod unrhyw awgrymiadau y byddai cyflenwad nwy'r DU yn rhedeg allan yn "codi bwganod".

Roedd y Zarga, sy'n 344 o fetrau (1,128 o droedfeddi) o hyd, wedi hwylio o Qatar.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol