Pris nwy'n ergyd i elw porthladd

  • Cyhoeddwyd
The LNG terminal near Milford Haven in PembrokeshireFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae tanceri anferth yn cludo LNG i ddwy derfynell ym mhorthladd Aberdaugleddau

Mae disgwyl i elw porthladd mwyaf Cymru yn Aberdaugleddau haneru oherwydd cwymp yn y galw am nwy LNG yn y DU.

Dywedodd awdurdod y porthladd eu bod yn disgwyl elw o £4 miliwn cyn treth.

Ychwanegodd bod pris LNG wedi codi oherwydd galw mawr am y cynnyrch yn Asia gan fod pwerdai niwclear yn Japan wedi cau ar ôl y ddaeargryn a tsunami yno'r llynedd.

Mae gan Aberdaugleddau ddwy derfynell - South Hook a Dragon LNG - ac mae tanceri anferth wedi bod yn cludo LNG yno o'r dwyrain canol ers 2009.

Mae'r ddwy derfynell yn gallu cyflenwi tua 30% o anghenion nwy'r DU, ond dywedodd yr awdurdod bod llai o lawer o LNG wedi dod i mewn i'r porthladd yn ystod naw mis cyntaf eleni.

Ychwanegodd nad oedd disgwyl newid mawr yn lefel yr LNG sy'n dod i mewn i'r DU yn ystod 2013 a 2014.

Yn ychwanegol, gallai costau pensiynau arwain at yr elw yn disgyn eto'r flwyddyn nesaf, rhybuddiodd yr awdurdod.

Mae'r awdurdod bellach yn edrych ar ffyrdd eraill o wneud arian er mwyn sicrhau dyfodol y porthladd, gan gynnwys datblygu'r doc i annog twristiaeth ar hyd arfordir y de-orllewin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol