George North 'yn dda ond nid yn wych,' medd Matt Dawson

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sibrydion ar led ers tro fod George North ar fin gadael y Scarlets

Mae cyn fewnwr Lloegr a Northampton Matt Dawson wedi dweud y bydd arwyddo George North yn "dda ond nid yn wych" i'w gyn glwb.

Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Iau fod asgellwr 20 oed y Scarlets a Chymru yn symud o Lanelli i Northampton y tymor nesaf.

Dywedodd Dawson wrth y BBC: "Mae'n enw mor fawr, yn chwaraewr mawr ac yn chwaraewr rhyngwladol talentog.

"Ond i'r Seintiau (Northampton) fe fyddwn i'n dweud ei fod yn gaffaeliad da ond nid yn un gwych."

Blwyddyn yn weddill

Mae North wedi sgorio naw cais mewn 10 gêm yng nghynghrair y Pro12 y tymor hwn ac mae ei gyfanswm o gapiau rhyngwladol yn 31 ar ôl iddo chwarae ymhob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Northampton wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud cynnig am yr asgellwr sydd â blwyddyn yn weddill o'i gytundeb gyda'r Scarlets.

Hyd yma dyw'r un o'r ddau glwb wedi cadarnhau eu bod wedi cytuno'r trosglwyddiad.

Ychwanegodd Dawson: "Fe fydd yn gwella'r tîm yn sicr ond nid asgellwyr yw'r broblem i Northampton, yn fy marn i.

"Fe fydd George North yn chwaraewr anhygoel ond a fydd yn gallu troi Northampton yn dîm all ennill y bencampwriaeth? Mae hynny'n fater arall.

"Mae'n gorffen symudiadau yn ardderchog ond mae'n rhaid cael y bêl ato fe rywsut, a dyna lle mae gwendid Northampton.

"Fe fydd angen lot o arian i fynd â George North i'r Seintiau.

"Amser a ddengys os bydd hynny'n werth da am arian o'i gymharu â chael gafael ar faswr o safon fydeang."

Testun dadlau

Mae dyfodol North wedi bod yn destun ffrae rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r Scarlets a gweddill rhanbarthau Cymru.

Arweiniodd y ffrae at ddadlau am gytundebau canolog i chwaraewyr rhyngwladol Cymru, rhywbeth y mae nifer o wledydd eraill eisoes yn ei wneud.

Mae'r undeb wedi gwahodd y rhanbarthau am drafodaethau ar y mater, gyda'r undeb yn awyddus i ystyried bob opsiwn.

Nod y cynllun fyddai sicrhau bod chwaraewyr gorau Cymru yn aros yng Nghymru i chwarae eu rygbi clwb, yn sgil y ffaith fod nifer o enwau mawr, gan gynnwys Mike Phillips, James Hook, a Luke Charteris, yn chwarae i glybiau y tu allan i Gymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol