Wylfa: Cytundeb yn golygu 'cyfnod allweddol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i godi atomfa newydd ar Ynys Môn gam yn nes oherwydd cytundeb rhwng rheoleiddwyr niwclear llywodraeth y DU a chwmni Horizon Nuclear a'i berchnogion Hitachi-GE.
Pwrpas y cytundeb yw ystyried pa fath o adweithydd y bydd Hitachi-GE yn ei ddefnyddio yn y Wylfa ac yn Oldbury yn Sir Gaerloyw.
Mae Hitachi-GE am ddatblygu adweithydd dwr berw (ABWR) yn y DU - adweithydd y mae'r cwmni wedi ei ddefnyddio ar bedwar safle yn Japan ac wedi eu trwyddedu i'w ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau a Taiwan.
Bydd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, ochr yn ochr ag asiantaethau amgylcheddol yn paratoi Asesiad Dyluniad Generig allai arwain at gymeradwyo'r defnydd o'r adweithydd yn y DU, gan gynnwys Wylfa.
Pum mlynedd
Horizon Nuclear a Hitachi-GE fydd yn talu cost y broses - un allai gymryd hyd at bum mlynedd - wedi i Hitachi-GE gymryd rheolaeth ar Horizon yn lle'r perchnogion Almaeneg gwreiddiol ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae disgwyl i'r cwmni gyflwyno cynlluniau manwl cyntaf dyluniad yr adweithydd i'r rheoleiddwyr erbyn Hydref.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Horizon, Alan Raymant: "Gan fod y cytundeb asesiad yn ei le, bydd Hitachi-GE yn medru dechrau'r broses baratoi o lunio cyflwyniad ar gyfer y rheoleiddwyr yn ddiweddarach eleni.
"Mae'r asesiad yn broses hirdymor a thrylwyr ac yn un fydd yn penderfynu a yw'r rheoleiddwyr yn barod i ystyried yr adweithydd ABWR fel un addas i'w godi yn y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd28 Medi 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012