Ymgyrch i geisio atal blociadau carthffosiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cwsmeriaid Dŵr Cymru yn cael eu hannog i ystyried yn ofalus yr hyn maen nhw'n ei roi lawr y toiled neu yn ei daflu.
Mae'n rhan o ymgyrch i gwtogi ar y £7 miliwn sy'n cael ei wario pob blwyddyn i fynd i'r afael â systemau carthffosiaeth sydd wedi cael eu blocio.
Ymhlith yr eitemau a gafodd eu darganfod yn y blynyddoedd diwethaf roedd beic modur bychan, gôl bêl-droed a theganau meddal mawr.
Nod ymgyrch 'Stop Cyn Creu Bloc' yw tynnu sylw pobl at beryglon llygredd a llifogydd sy'n deillio o daflu eitemau anaddas i lawr y tŷ bach.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae tua 2,000 achos o'r fath yn cael eu hachosi gan ffyn cotwm sy'n cael eu taflu i doiledau.
Mae'r cwmni yn galw ar gwsmeriaid i'w helpu i daclo'r broblem.
'Pethau pob dydd'
"Cyllyll a ffyrc, teganau meddal mawr, caniau, brics, ffonau symudol, beiciau tair olwyn - mae'n rhyfeddol beth sy'n cyrraedd ein rhwydwaith carthffosydd. Wrth gwrs, mae'r pethau hyn yn eithaf prin.
Ychwanegodd: "Mae'r rhan fwyaf o'r 2000 o achosion o flocio rydyn ni'n delio â nhw bob mis yn cael eu hachosi gan bethau bob dydd sy'n cael eu rhoi i lawr y toiled fel weips, clytiau mislif, ffyn cotwm ac edafedd dannedd; a braster, olew a saim y mae pobl yn eu harllwys i lawr eu draeniau.
"Yn aml, dydi pobl ddim yn sylweddoli bod y pethau hyn yn gallu gwneud i garthffosydd orlifo gan achosi llygredd yn eu tai a'u cymunedau. Yn wir, mae'n anghyfreithlon taflu neu arllwys rhywbeth i'n rhwydwaith os yw'n debygol o ddifrodi draen neu garthffos neu ymyrryd â'r llif.
"Bydd pawb sydd wedi cael gorlifiad i'w cartref gan fod draen neu garthffos wedi blocio yn gwybod faint o ddifrod a gofid y mae hynny'n ei achosi. Os bydd digon o bobl yn cefnogi'r ymgyrch, byddwn yn gallu sicrhau bod llai o flociadau, gorlifiadau a llygredd ac felly llai o ofid."
Ardaloedd penodol
Gobaith Dŵr Cymru yw y bydd 'Stop Cyn Creu Bloc' yn newid ymddygiad pobl, yn enwedig grwpiau allai fod yn cyfrannu'n sylweddol at y broblem.
Bydd nifer o ardaloedd penodol hefyd yn cael eu targedu - Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, arfordir de Cymru rhwng Casnewydd a Sir Gaerfyrddin, a rhannau o Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.
Gogledd Caerdydd (ardal cod post CF14) yw un o'r ardaloedd ble mae'r broblem ar ei gwaetha'.
Dywedodd Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru Alun Davies: "Mae gorlifiadau o garthffosydd sydd wedi blocio yn gallu cael effaith ofnadwy ar ein cartrefi, ein strydoedd a'r amgylchedd ehangach.
"Mae Cymru'n lwcus i gael rhai o'r afonydd, y traethau a'r glannau gorau yn y byd a gall pob un ohonon ni helpu i stopio'r blocio gan helpu i leihau'r risg o lifogydd a llygredd yn ein cymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011