Burnley 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Craig ConwayFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Craig Conway: Dim gobaith i'r golgeidwad

Yn yr hanner cynta' cafodd Caerdydd ei gosbi am fod Aron Gunnarsson wedi troseddu.

Jason Shackell gymerodd y gic rydd, croesodd Kieran Trippier ac arbedodd David Marshall.

Wedi 27 munud cyrliodd Craig Conway y bêl i'r chwith.

Doedd dim gobaith i golgeidwad Burnley - 1-0 i Gaerdydd yn Turf Moor.

Ond yn y funud ola' peniodd David Edgar i'r tîm cartre'.

Dim ond un pwynt i Gaerdydd ond maen nhw'n bencampwyr.

Hwn yw'r tro cyntaf iddynt ennill pencampwriaeth ar ôl ddod yn ail wrth gael eu dyrchafu i adran uchaf Lloegr ym, 1921, 1952 a 1960.

Ar y cae ar ddiwedd y gêm cafodd potel siampaen ei hagor.

Cododd pum chwaraewr y rheolwr Malky Mackay ar eu hysgwyddau wrth i hyd at 3,000 o gefnogwyr o Gymru ddathlu'r gamp.