Frech goch: Targedu staff iechyd

  • Cyhoeddwyd
Measles vaccinationFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff iechyd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r frech goch

Staff ysbytai yng nghyffiniau Abertawe yw'r diweddaraf i gael eu targedu am frechiadau yn erbyn y frech goch.

Mae clinigau wedi agor yn y pedwar prif ysbyty yn yr ardal, ond fe fydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys pob uned iechyd.

Mae dros 800 o achosion o'r haint wedi dod i'r amlwg yn y de-orllewin, ond mae disgwyl i'r ffigyrau diweddaraf fydd yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach ddangos cynnydd pellach.

Rhywdro'r wythnos hon fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar gorff Gareth Colfer-Williams - dyn 25 oed fu farw yn ei gartref ddydd Iau diwethaf, ac oedd yn diodde' o'r frech goch.

Ers i'r achosion ddechrau ym mis Tachwedd y llynedd, mae 77 o bobl wedi cael triniaeth yn yr ysbyty am y clefyd.

Gan mai gweithwyr iechyd yw'r mwaf tebygol o ddod i gysylltiad â phobl sy'n diodde' o'r cyflwr, maen nhw'n ystyried o fod mewn perygl o'i ddal os nad ydyn nhw wedi cael brechiad.

Gareth Colfer-WilliamsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Colfer-Williams yn diodde' o'r frech goch pan gafwyd hyd iddo'n farw yn ei fflat yn Abertawe

Os fydd staff ysbytai yn mynd yn sâl, mae'r effaith yn ddeublyg, gan olygu gofalu amdanyn nhw ac yn lleihau'r nifer o staff sydd ar gael i drin eraill.

Mae clinigau'n cael eu cynnal o 8:00am gan 8:00pm er mwyn ceisio brechu cymaint o bobl ag sy'n bosib.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi y bydd ymweliadau i ddeg ysgol, gan gynnig y brechiad i dros 1,700 o ddisgyblion.

Ardaloedd eraill

Mae camau'n cael eu cymryd mewn ardaloedd eraill o Gymru i geisio atal y clefyd yn ogystal.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu gorllewin a chanolbarth Cymru, yn bwriadu cynnig brechiad MMR i blant mewn ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro o ddydd Llun nesaf.

Bydd clinigau hefyd yn cael eu cynnal yn holl ysgolion cyfun Powys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol