Y frech goch: Targedu Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl ifanc yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn cael cynnig y brechiad MMR wrth i nifer yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe gynyddu.
Bydd timau brechu'n targedu 1,700 o ddisgyblion mewn 10 ysgol yn Abertawe a'r Cylch yr wythnos hon.
Ac fe fydd clinigau arbennig mewn ysgolion cyfun yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro o Ebrill 29.
Bydd 'na gyfle hefyd i bobl fynd i glinig galw heibio yn Llanelli ddydd Sadwrn er mwyn cael eu brechu.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda cynhelir y clinig yng Nghlinig Elizabeth Williams rhwng 9.30am a 4.30pm ac ni fydd angen trefnu apwyntiad.
Clinigau ychwanegol
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Hywel Dda:
"Er bod y clinig yn agored i bawb ac er na fyddwn yn gofyn i neb adael rydym yn arbennig o awyddus i blant a phobl ifanc ardaloedd Llanelli a Rhydaman sydd rwng 12 mis a 18 oed nad ydyn nhw wedi cael dau frechiad MMR ddod i'r clinig.
"Os bydd galw sylweddol byddwn yn ystyried cynnal clinigau galw heibio ychwanegol."
Yn y cyfamser, mae disgwyl archwiliad post mortem ar gorff Gareth Colfer-Williams, 25, a gafodd ei ddarganfod yn ei fflat yn Abertawe fore Iau.
Roedd yn diodde' o'r frech goch adeg ei farwolaeth.
Ond mae profion yn cael eu cynnal cyn penderfynu ai hwn oedd achos ei farwolaeth.
Mae disgwyl i'r archwiliad post mortem gael ei gynnal ganol yr wythnos.
Dywedodd swyddogion iechyd eu bod yn fodlon am fod 1,825 wedi eu brechu yng nghlinigau galw heibio pedwar ysbyty ddydd Sadwrn.
Ond yr wythnos ddiwetha' roedd y nifer gafodd frechiadau MMR mewn ysgolion yn "siomedig".
Mae dros 800 o achosion o'r salwch wedi eu cadarnhau yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.
Y prif reswm am y nifer o achosion, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw nad oes digon o blant rhwng 10 a 17 oed wedi cael eu brechu.
'Risg uchel'
Dywedodd Dr Sara Hayes, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd: "Os yw plant a phobol ifanc heb gael y brechiadau MMR mae risg uchel o ddal y clefyd.
"Mae MMR yn syml ac yn effeithiol.
"Dwi'n annog rhieni i lofnodi'r ffurflen ganiatáu fel bod modd i'r plant gael brechiad yn yr ysgol."
Ers i'r gyfres o achosion ddechrau mae 77 o bobl wedi bod yn yr ysbyty.
Yn y cyfamser, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Colfer-Williams yn parhau.
Cadarnhaodd swyddogion iechyd ei fod yn diodde' o'r frech goch pan fu farw ond mae profion pellach yn cael eu cynnal i gadarnhau union achos ei farwolaeth.
Triniaeth ysbyty
"Beth bynnag yw achos y farwolaeth yn yr achos yma, fyddai hi ddim yn syndod, wrth i'r haint ledu, ein bod yn dechrau gweld marwolaethau yng Nghymru," meddai Dr Marion Lyons, o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'n ymddangos fod Mr Colfer-Williams wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn Abertawe am broblemau iechyd eraill, yn cynnwys asthma, ond nid y frech goch.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi mynd yn sâl ychydig ddyddiau ar ôl dod o'r ysbyty a bod y frech wedi ymddangos.
Yn ôl Angela Colfer, roedd ei mab wedi mynd i weld meddyg teulu nos Fercher gan ei bod "yn frech drosto", heblaw am ei freichiau.
Y bore canlynol, cafwyd hyd i Mr Colfer-Williams yn farw yn ei fflat.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013