Llwybr arfordirol yn dathlu pen-blwydd

  • Cyhoeddwyd
Bae CeredigionFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd

Mae Llwybr Arfordirol Cymru yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r llwybr 870 milltir o hyd o Sir Fynwy i Sir y Fflint wedi cyfrannu £16m at economi Cymru, wedi denu 1.6 miliwn o ymwelwyr dydd ac wedi arwain at at 835,000 o nosweithiau i ffwrdd yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

I ddathlu'r pen-blwydd mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn ymuno â'r Cerddwyr ar ran o'r llwybr yng Nghydweli.

Dywedodd y gweinidog: "Mae ein harfordir arbennig a datblygiad Llwybr Arfordir Cymru yn destun cryn falchder i ni.

'Llwybr cyntaf'

"Dyma'r llwybr cyntaf o'i fath yn y byd ac mae Cymru wedi elwa'n fawr arno.

"Hoffwn ddymuno pen-blwydd cyntaf hapus i'r llwybr a hefyd annog pawb i fynd ar grwydr o amgylch eu harfordiroedd lleol a manteisio ar yr hyn sydd ar garreg ein drws."

Yn 2012 dywedodd llyfr teithio mai arfordir Cymru oedd "y lle gorau ar y ddaear" i ymweld ag e.

Cafodd yr arfordir sylw yn 'Lonely Planet's Best in Travel 2012' sy'n nodi'r lleoedd gorau i fynd iddyn nhw o fewn blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol