Cyfarfod i drafod cymorth cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn hwyrach er mwyn rhoi cyfle i bobl holi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â'r newidiadau i gymorth cyfreithiol.
Yn ôl bargyfreithiwr o Gymru, Andrew Taylor, mae llawer o gyfreithwyr yn flin oherwydd y newidiadau mae llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn gynllunio ar gyfer y system.
Mae'n honni y bydd cyflwyno cystadlu am waith cyfreithiol yn arwain at nifer o gwmnïau cyfreithiol bach yn cau.
Mae'r llywodraeth y DU eisiau cwtogi faint o arian mae'r wlad yn ei wario ar gymorth cyfreithiol, gan honni bod y bil presennol yn fwy na all y wlad ei fforddio.
Mewn ymateb i bryderon Mr Taylor, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn dal i wario £1 biliwn ar gymorth cyfreithiol troseddol bob blwyddyn, a phan yr ydych yn edrych ar y costau - gyda rhai achosion yn costio rhwng £10m a £15m yr un - maen nhw'n ymddangos yn uchel.
"Er bod gennym bob rheswm i fod yn falch o'r sustem gymorth cyfreithiol rydym yn bryderus am hyder y cyhoedd yn lefel yr arian sy'n cael ei wario, ac nid oes modd bellach osgoi edrych ar y sustem gyfan."
'Colli swyddi'
Barn Mr Taylor yw y bydd y newidiadau yn cael effaith waeth ar Gymru nag ar weddil y DU.
Dywedodd: "Bydd y toriadau i gymorth cyfreithiol yn effeithio ar Gymru yn llym iawn. Bydd yr effeithiau yma yn fwy sylweddol nag yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Lloegr oherwydd daearyddiaeth a demograffeg ein gwlad.
"O ganlyniad bydd swyddi proffesiynol a swyddi coler wen yn cael eu colli mewn ardaloedd o Gymru lle y gallwn ddim fforddio eu colli nhw."
Mae Mr Taylor hefyd wedi cwyno am y ffaith nad oedd copi o'r papur ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg yn wreiddiol - mae copi Cymraeg ar gael erbyn hyn.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Park Inn yn Llanedyn nos Fercher am 5pm.
Mae angen i unrhywun hoffai fynychu gofrestru o flaen llaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012