Ymgyrch chwilio fwyaf yr heddlu
- Cyhoeddwyd
"Mae hi wedi mynd i ffwrdd mewn car gyda rhywun." Dyna'r geiriau a glywodd y person atebodd yr alwad 999 ar Hydref 1, 2012 arweiniodd at yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd Prydain.
Diflannodd April Jones tua 7 o'r gloch y diwrnod hwnnw ar ôl bod yn chwarae gyda'i ffrindiau ger ei chartref ar ystad Bryn-y-gog ym Machynlleth.
Hanner awr yn ddiweddarach, gwnaeth ei mam, Coral Jones, a'i ffrind, Valerie Jones oedd yn ymweld â'r teulu ar y pryd, ffonio 999.
Anfonwyd plismyn i gartref y teulu yn syth, ac o fewn oriau daeth y system Rhybudd Achub Plentyn (CRA) i rym am y tro cyntaf erioed.
Cyhoeddwyd rhif ffôn arbennig 0300, ac roedd y Rhybudd Achub Plentyn yn cysylltu holl heddluoedd y DU gan fwydo gwybodaeth yn uniongyrchol i ganolfan yr ymchwiliad.
O fewn y 24 awr gyntaf, derbyniodd y ganolfan 1,270 o alwadau.
Gwefannau cymdeithasol
Ychydig o funudau wedi i April Jones fynd ar goll cyhoeddwyd apêl am wybodaeth ar wefannau cymdeithasol.
Oherwydd prysurdeb y gwefannau cymdeithasol clustnododd yr heddlu staff i fonitro'r cyfan.
Cannoedd o bobl
Penderfynodd tua 200 o bobl leol chwilio am April ar y noson y gwnaeth hi ddiflannu wedi i'r neges ei bod ar goll fynd ar led trwy wefannau cymdeithasol.
Fe wnaeth gwirfoddolwyr o Gymru a Lloegr gan gynnwys pobl a deithiodd o Fanceinion a Bryste ymuno â'r chwilio yn ystod y dyddiau canlynol.
Ar y pryd dywedodd Brian Clayton, 69 oed, sy'n byw 135 milltir i ffwrdd yn Portishead ger Bryste: " Clywais y newyddion tua 8.45am y bore 'ma a phenderfynais yrru i Fachynlleth.
"Rwy'n adnabod yr ardal yn dda ac roeddwn i'n teimlo y byddwn i'n gallu helpu. Roeddwn i am helpu yn hytrach na gwylio'r datblygiadau ar y teledu."
Yn ystod dyddiau cyntaf y chwilio codwyd pryderon fod cymaint o bobl yn cerdded ar hyd Dyffryn Dyfi yn ystod cyfnod pan oedd yr afon yn gorlifo.
Mae'r mynyddoedd o gwmpas Machynlleth hefyd yn cynnwys nifer o hen siafftau cloddio ymysg peryglon eraill.
Erbyn diwedd yr wythnos dywedodd yr heddlu y byddai'n rhaid i'r cyhoedd roi'r gorau i'r chwilio a gadael y gwaith i dimau arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew John, fod natur y chwilio wedi newid ar ôl i Mark Bridger gael ei arestio ar amheuaeth o gipio a llofruddio April Jones ar Hydref 5.
"Y nod tan hynny oedd canfod April yn ddiogel ond cafodd y penderfyniad i arestio Mark Bridger effaith ar ysbryd y gymuned," meddai.
"Ond ymatebodd y gymuned yn gyflym gan barhau i gefnogi'r ymchwiliad."
Dros y misoedd nesaf chwiliwyd 650 o ardaloedd o gwmpas Machynlleth ac fe gribiniwyd 60 cilometr sgwar.
Roedd y timau chwilio yn cynnwys plismyn o 45 o luoedd, dwsinau o dimau achub mynydd a Gwylwyr y Glannau o Aberystwyth, Y Borth, Aberdyfi a Harlech yn ogystal â thimau bad achub.
Chwiliwyd nentydd ac afonydd, a bu arbenigwyr yn archwilio hen siafftiau mwyngloddio'r cylch.
Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Jackie Roberts, lythyr agored at y gwirfoddolwyr gymerodd rhan yn y chwilio gan ddiolch iddynt am eu hymateb ar ei rhan hi a theulu April Jones.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ian John:
"Ddylwn ni ddim anghofio fod yr ymchwiliad yn ymwneud â merch 5 oed sydd ar goll a theulu sy'n gobeithio iddi gael ei darganfod a bydd ei chorff yn cael ei dychwelyd iddynt."
Er hynny ofer fu'r chwilio ac fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys ar Ebrill 22 fod y chwilio wedi dod i ben. Dywedodd yr heddlu eu bod yn barod i ailddechrau chwilio pe bai gwybodaeth newydd yn dod i law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012