'Tystiolaeth allweddol' plentyn

  • Cyhoeddwyd
Mark BridgerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Bridger yn aros yn y carchar am weddill ei oes

Yn ôl y barnwr Mr Ustus Griffith Williams bydd Mark Bridger yn treulio gweddill ei oes dan glo am lofruddio a chipio April Jones.

Mae'r ddedfryd yn un anarferol. Er bod pob llofrudd yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes, mae'r barnwr fel arfer yn pennu isafswm y cyfnod y bydd dan glo.

Ond dywedodd y barnwr bod difrifoldeb y drosedd yn golygu ei fod yn haeddu aros yn y carchar tra bydd e'n fyw.

Ar ôl y ddedfryd roedd y plismon yng ngofal yr ymchwiliad i lofruddiaeth April yn siarad y tu allan i Lys y Goron Yr Wyddgrug.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Andrew John fod y dystiolaeth yn erbyn Mark Bridger "yn llethol" ac mai ef, ac ef yn unig, gyflawnodd y troseddau mwyaf erchyll - cipio a llofruddio'r ferch fach fregus bump oed, April Jones.

"Mae cyfiawnder wedi cael ei weinyddu ac mae Mark Bridger, unigolyn anfad oedd yn ceisio rheoli popeth, yn mynd i golli ei ryddid," meddai.

"Fe gipiodd a llofruddio April ac yna wedi ido fynd i drafferth fawr i ddinistrio tystiolaeth, cuddiodd i ran yn y weithred a cheisio osgoi cael ei ddal."

'Poenus iawn'

Yna fe safodd Coral Jones, mam April, o flaen y camerâu a darllen ei datganiad hi a'i gŵr Paul:

"Mae'n rhyddhad bod Mark Bridger wedi ei gael yn euog o lofruddio ein merch brydferth April ond dydyn ni'n dal ddim yn gwybod lle mae hi ac fe fydd hyn wastad yn beth poenus iawn i ni ddelio ag ef.

"Bydd April yn ein calonnau am byth ac mae cefnogaeth lethol cymaint o bobl ar draws y byd wedi ein cyffwrdd.

"Rwyf i a Paul am ddiolch i Heddlu Dyfed Powys am y gefnogaeth a gawsom, y tîm ymchwilio, y timau chwilio o bobman a'r swyddogion cyswllt teulu.

"Hoffwn ddiolch i'n teulu a'n cyfeillion yng nghymuned Machynlleth - heb eu cefnogaeth nhw dydyn ni ddim yn gwybod sut y bydden wedi dod drwy'r saith mis diwethaf ers i April gael ei chipio mor greulon oddi wrthym.

"Hoffwn ddiolch i'r cyfryngau am y modd parchus y maen nhw wedi adrodd stori April ac rydym am gymryd amser i fod gyda'n teulu ac i geisio ymdopi gyda cholled April."

'Tystiolaeth allweddol'

Wedyn siaradodd Ed Beltrami o Wasanaeth Erlyn y Goron.

"Ers ei gyfweliad cyntaf gyda'r heddlu ym mis Hydref y llynedd mae Mark Bridger wedi creu cyfres o gelwyddau er mwyn ceisio ymbellhau o natur erchyll y drosedd a gyflawnodd.

"Mae wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb am yr hyn wnaeth i April ac wedi gwneud popeth o fewn ei allu i guddio'i gamweddau.

"Er gwaetha'i ymdrechion, cafodd ei ddwyn i gyfrif gan ymchwiliad proffesiynol Heddlu Dyfed Powys - ac fe gafodd hynny ei gydnabod gan y barnwr heddiw - ynghyd â gwaith caled a thrylwyr tîm yr erlyniad.

"Gyda'n gilydd rydym wedi chwalu fersiwn Bridger o'r stori a dangos ei fod yn llofrudd calongaled ac yn gelwyddgi.

"Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth roi tystiolaeth yn yr achos, yn enwedig y plant ac un ferch yn arbennig a roddodd dystiolaeth allweddol am gipio April.

"Dylai ei rhieni fod yn falch iawn ohoni.

"Mae Coral a Paul wedi cael profedigaeth ofnadwy ac wedi ymddwyn gydag urddas trwy gydol y broses gyfreithiol. Gallwn ond gobeithio y bydd y dyfarniad a'r ddedfryd yn gymorth iddyn nhw ymdopi gyda'u colled fawr."

'Colled enbyd'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd April Jones yn blentyn 'poblogaidd a llon', medd pennaeth ei hysgol gynradd

Daeth ymateb hefyd gan bennaeth ysgol gynradd Machynlleth, Gwenfair Glyn.

"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn brofiad anodd a gofidus iawn i'r holl ddisgyblion, eu rhieni a staff yr ysgol.

"Roedd April yn ddisgybl hardd a hapus. Roedd yn blentyn poblogaidd a llon oedd yn mynychu ffrwd Gymraeg Ysgol Gynradd Machynlleth - llygedyn o heulwen ac yn ffrind annwyl i bawb."

Ychwanegodd fod pawb oedd yn ei hadnabod yn yr ysgol wedi teimlo'r golled yn ddwfn iawn.

"Ar ran yr ysgol gyfan, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwys â Coral a Paul, eu plant a'r teulu cyfan yn eu colled.

"Ein blaenoriaeth dros y misoedd nesaf fydd canolbwyntio ar les pob un o'n disgyblion a staff wrth i ni geisio edrych ymlaen ac nid yn ôl. Ond ni fydd hyn yn hawdd.

"Mae'r atgofion hapus sydd gennym o April yn rhai gwerthfawr dros ben a byddan nhw'n cael eu trysori gan bawb. Mae'r golled yn golled enbyd, a'r hiraethu'n fawr amdani."

'Mesurau effeithiol'

Wrth gydymdeimlo â theulu April Jones, dywedodd Phillip Noyes, prif weithredwr dros dro elusen yr NSPCC,: "Mae'r achos ofnadwy yma, sy'n waeth i'r teulu oherwydd nad yw Bridger yn fodlon dweud ble mae corff April, wedi gadael craith ddofn ar y genedl ... rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yma'n dod â rhyw fath o gysur yn dilyn profiad mor erchyll.

"Mae'n ymddangos fod Bridger yn byw mewn byd ffantasi, oedd yn cynnwys edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar y we.

"Am gryn amser rydym wedi pryderu am y nifer cynyddol o luniau fel hyn sydd yn dod yn haws i gael gafael arnyn nhw ac sy'n cael eu defnyddio gan rai fel Bridger.

"Mae'r achos hwn yn cryfhau'r dystiolaeth gynyddol fod yna gysylltiad pryderus rhwng edrych ar y math yma o luniau ofnadwy a chyflawni troseddau rhyw difrifol eraill.

"Gobeithio y bydd marwolaeth April yn arwain at fesurau effeithiol i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa ffiaidd hon."