Clefyd: Cyrraedd lefel 'epidemig'
- Cyhoeddwyd
Mae achosion y clefyd siwgr yng Nghymru wedi cyrraedd lefel "epidemig", yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mewn adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd yn dweud bod angen gweithredu nawr er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried ei gynnwys yn fanwl cyn ymateb yn ffurfiol i gadeirydd y pwyllgor.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod angen i bobl wneud mwy o ymarfer corff a bwyta'n iachach er mwyn lleihau'r siawns o ddatblygu clefyd siwgr.
'Her sylweddol'
Yn ôl yr adroddiad, mae gan 5% o'r boblogaeth - neu 160,000 o bobl - glefyd siwgr erbyn hyn.
Mae'r ffigwr yma'n cynnwys 15%-20% o gleifion sydd yn yr ysbyty.
Dywedodd Vaughan Gething, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Roedd y dystiolaeth a glywsom yn drawiadol. Mae diabetes wedi cyrraedd lefel epidemig yng Nghymru.
"Nid mater ymylol mohono - mae'n her sylweddol i ni oll, nid yn unig y rhai sy'n byw â diabetes neu'r staff gofal iechyd sy'n gofalu amdanynt. Mae'r galw a'r gost gynyddol am driniaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom.
"Gall diabetes arwain at ystod eang o gymhlethdodau - mae pobl sydd â diabetes yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon, clefyd yr arennau neu ddallineb, neu mae'n bosibl y bydd angen torri rhan o'r corff i ffwrdd.
"Mae hyn oll yn costio hanner biliwn o bunnoedd i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n debygol y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu wrth i nifer y bobl sydd â'r cyflwr barhau i gynyddu."
Achos arall sy'n destun pryder i'r pwyllgor yw bod targedau diabetes y llywodraeth yn debygol o gael eu methu.
"Mae'r Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru yn arwain mwy ar y gwaith o ymdrin â'r sefyllfa hon," meddai Mr Gething.
"Rydym yn cydnabod y cynnydd sydd yn barod yn cael i wneud i'r perwyl hwn gyda'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Diabetes sydd yn yr arfaeth, ond credwn fod angen mabwysiadu dull sydd wedi'i gydgysylltu'n well ledled Cymru i fynd i'r afael â'r broblem."
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion - un ohonynt yw bod angen sicrhau bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael ei weithredu drwy gryfhau'r trefniadau arolygu a monitro, a bod hynny'n flaenoriaeth yn y cynllun cyflawni newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor a byddwn yn gwneud gwaith dilynol ar yr ymrwymiad y mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi'i wneud i ddefnyddio argymhellion yr adroddiad i lywio'n Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes sydd ar y gweill.
"Yr amcangyfrif yw bod diabetes yn effeithio ar 5% o boblogaeth Cymru. Rydyn ni i gyd yn gwybod am y cysylltiadau agos rhwng arferion byw, gordewdra a diabetes, ac rydyn ni'n ymrwymedig i wneud cynnydd go iawn.
"Bydd y Gweinidog Iechyd yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanwl cyn ymateb yn ffurfiol i Gadeirydd y Pwyllgor."
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylai'r llywodraeth "fod yn fwy cadarn wrth fonitro darpariaeth gwasanaethau diabetes ymhlith byrddau iechyd lleol".
Cadw'n iach
Dywedodd Dr Peter Bradley, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn gwybod bod ffyrdd o fyw ddiog a gormod o fwydydd wedi'u prosesu yn cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd a'n lles yma yng Nghymru.
"Mae Diabetes Math 2 yn un o lawer o gyflyrau sy'n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff a diet gwael, ynghyd â chynnydd yn y risg o strôc, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.
"Y newyddion da yw y gallwn leihau ein siawns o ddatblygu diabetes yn sylweddol drwy gofio i symud ychydig mwy a bwyta ychydig llai.
"Trwy dorri i lawr ar fwydydd wedi'u prosesu, a byrbrydau a diodydd llawn siwgr, bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, a thrwy wneud yr amser i ymarfer neu aros yn weithgar, gallwn ni i gyd gadw'n glir o Diabetes Math 2."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013