Cynnydd mawr mewn diabetes math 2

  • Cyhoeddwyd
Claf yn cael prawf i wirio lefel y siwgr yn y gwaedFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Claf yn cael prawf i wirio lefel y glwcos neu siwgr yn y gwaed

Mae astudiaeth gan ymchwilwyr meddygol yng Nghaerdydd wedi canfod bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer yr achosion o ddiabetes math 2 dros gyfnod o 20 mlynedd.

Roedd y cynnydd hwn yn llawer mwy na'r cynnydd mewn achosion cyffredinol o'r clefyd.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr astudio data oedd yn dangos achosion newydd o'r clefyd rhwng 1991 a 2010.

Dywedodd arweinydd yr ymchwil y gall y clefyd bellach gael ei ystyried yn un cyffredin ymysg pobl gweddol ifanc, ac fe allai hynny arwain at drafferthion iechyd yn hwyrach mewn bywyd.

'Cymhlethdodau'

Dywedodd yr Athro Craig Currie o Brifysgol Caerdydd:

"Gall cael diabetes math 2 yn gynnar arwain at y clefyd yn para'n hirach a mwy o risg o ddatblygu cymhlethdodau iechyd.

"Does dim dwywaith y bydd hyn yn gosod mwy o bwysau ar adnoddau iechyd, ac yn arwain a safon is o fywyd. Gall arwain hefyd at farwolaeth gynamserol."

Gordewdra

Mae diabetes math 2 yn gyflwr lle nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu fod celloedd y corff ddim yn ymateb i inswlin.

Mae hynny'n wahanol o ddiabetes math 1, sy'n digwydd pan nad yw'r corff yn cynhyrchu inswlin o gwbl.

Inswlin yw'r hormon yn y corff sy'n galluogi i'r celloedd sugno glwcos o'r gwaed.

Pobl hŷn sydd fwyaf tebygol o ddatblygu'r cyflwr ond mae gordewdra a diet gwael hefyd yn cynyddu'r risg o berson yn datblygu diabetes math 2.

Ffactor arall sy'n effeithio ar siawns unigolyn o ddatblygu'r cyflwr yw hanes teuluol - mae pobl o wledydd y Dwyrain Canol neu o gefndir De Asiaidd neu Affricanaidd-Caribïaidd yn wynebu'r risg fwyaf.

Mae'r ymchwil diweddaraf gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod cynnydd sylweddol mewn achosion o ddiabetes math 2 yn gyffredinol, gyda chynnydd uwch ymysg pobl sy'n 40 oed neu'n iau.

'Astudiaeth bwysig'

Ychwanegodd yr Athro Currie: "Rydym hefyd wedi canfod bod achosion o ddiabetes math 2 yn uwch mewn dynion dros 40 oed, ac ychydig yn uwch mewn menywod o dan 40 oed."

Cafodd canlyniadau astudiaeth Prifysgol Caerdydd eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Diabetes Obesity and Metabolism ddydd Gwener, a dywedodd y golygydd yr Athro Richard Donnelly: "Mae hon yn astudiaeth bwysig sy'n dangos y cynnydd parhau o achosion o ddiabetes math 2 fel her enfawr i iechyd cyhoeddus yn y DU.

"Mae'r canlyniadau yn debygol o adlewyrchu patrymau tebyg mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop."