Gwasanaethau diabetes yn cau dros dro

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i ddioddefwyr deithio i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn hytrach na Bangor

Mae elusen clefyd siwgr wedi mynegi pryder ar ôl clywed y bydd gwasanaethau i drin y clefyd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn cael eu diddymu am gyfnod.

Dywed swyddogion iechyd bod cau'r gwasanaethau endocrinoleg dros dro wedi digwydd oherwydd salwch staff a phroses recriwtio ymgynghorydd, ac y bydd y newid yn sicrhau diogelwch cleifion.

Bydd clinigau yn cael eu cynnal ar ddau ddiwrnod bob wythnos, ond bydd rhaid i unrhyw un sydd angen mynychu'r clinig ar ddyddiau eraill deithio i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

'Epidemig'

Mae Diabetes UK wedi mynegi pryder am y sefyllfa. Gan fod Ysbyty Glan Clwyd 32 milltir o Fangor, mae Alun Jones, cadeirydd cangen Dwyfor o Diabetes UK wedi dweud:

"Hoffwn weld y lle'n ailagor yn fuan gan ei bod hi'n gryn daith i rywun sy'n gorfod teithio o Ben Llŷn os oes problem ganddynt."

Mae Mr Jones, 73, a'i wraig Anne, 72, â'r cyflwr.

Roedd cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Dai Williams, yn ategu'r sylwadau gan gleifion a grwpiau cefnogol.

"Mae epidemig o ddiabetes yng Nghymru sy'n effeithio ar nifer anferth o bobl," meddai.

"Rwyf wedi derbyn galwadau gan gleifion sy'n flin iawn am y cau yma.

"Y gwir amdani yw bod y cau yma yn gadael pobl sydd â diabetes i lawr.

"Os ydyn nhw'n ymweld ag Ysbyty Gwynedd mae'n debyg eu bod yn diodde' o gymhlethdodau beth bynnag felly fyddan nhw ddim am deithio ymhellach."

'Ymddiheuro'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod yr uned wedi ei chau "yn anffodus oherwydd salwch ymhlith staff ynghyd â phroses y recriwtio ymgynghorydd newydd".

"Rydym wedi gorfod cau'r gwasanaethau am gyfnod er mwyn sicrhau diogelwch cleifion.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra i gleifion ac yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn recriwtio rhywun i'r swydd cyn gynted â phosib.

"Mae'r rhain yn amgylchiadau anodd iawn, ac mae'r cam anarferol iawn yma yn rhywbeth fydd yn digwydd am y cyfnod byrraf posib."

Ychwanegodd y llefarydd bod ymgynghorwyr dros dro yn Ysbyty Glan Clwyd yn darparu gwasanaeth am ddau ddiwrnod bob wythnos yn Ysbyty Gwynedd, a bod "gwasanaeth cyfyngedig i gleifion allanol yn gweithredu o'r ysbyty".

"Bydd cleifion sydd fel arfer yn dod i Ysbyty Gwynedd am ofal yn cael mynd i Ysbyty Glan Clwyd i sicrhau eu bod yn derbyn y lefel priodol o ofal," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol