Cynllunio dyfodol yr Hen Goleg, Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ail-ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth gam yn nes wedi i Gyngor y Brifysgol gymeradwyo astudiaeth ddichonoldeb.
Y nod fydd codi oriel gelf/amgueddfa, stiwdios artistiaid, canolfan astudio ôl-raddedig, gofod perfformio a chymunedol, llety preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac academyddion sy'n ymweld, a chaffi/bwyty a gofod masnachol ar gyfer busnesau bach.
Disgwylir y bydd y prosiect yn costio rhwng £15m ac £20m.
Wrth baratoi'r astudiaeth, bu'r awduron yn ymgynghori'n helaeth gyda chynrychiolwyr o fusnesau lleol a'r gymuned gelfyddydol, Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion a Cadw.
'Cyffrous'
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Yr Hen Goleg yw un o adeiladau mwyaf eiconig arfordir Cymru ac mae'r astudiaeth hon yn cynnig syniadau cyffrous iawn er mwyn adfywio adeilad sydd wedi bod mor ganolog i ddatblygiad tref Aberystwyth.
"Mae ganddo le arbennig yng nghalonnau llawer o'n alumni a'n myfyrwyr, yn ogystal â thrigolion ac ymwelwyr i Aberystwyth.
"Mae'n gyfnod cynnar iawn ar y prosiect hwn ond mae'r astudiaeth a'r ystod eang o awgrymiadau ar gyfer defnydd gwahanol o'r adeilad wedi creu cryn argraff arnon ni."
Prifysgol Aberystwyth a Chronfa Adfywio Aberystwyth Llywodraeth Cymru ariannodd yr astudiaeth a bydd yn cael ei chyflwyno i Fwrdd Adfywio Aberystwyth y mis hwn.
Bydd y brifysgol yn sefydlu Grŵp Prosiect yr Hen Goleg fydd yn ystyried ffynonellau posibl o ariannu a mynd i'r afael â materion cynllunio.
Mae'r Hen Goleg yn adeilad cofrestredig Gradd 1 ac mae'n sefyll ar safle Castle House adeiladwyd gan John Nash tua 1795.
Yn 1864 prynwyd y safle gan y datblygwr rheilffyrdd Thomas Savin gyda'r bwriad o greu gwesty o fawredd digynsail, y Castle Hotel.
Trafferthion
Comisiynwyd JP Seddon yn bensaer ar y cynllun a George Jones o Aberystwyth i oruchwylio'r gwaith adeiladu.
Agorodd ym mis Mehefin 1865 ond yn fuan iawn aeth i drafferthion ariannol a chafodd ei osod ar y farchnad i'w werthu.
Er i'r adeilad gostio £80,000, ym mis Mawrth 1867 cafodd ei werthu am £10,000 i bwyllgor er mwyn ffurfio Prifysgol Cymru.
Dychwelodd Seddon ac fe'i comisiynwyd i addasu'r gwesty yn goleg ac agorodd y coleg hwnnw ei ddrysau am y tro cyntaf ym mis Hydref 1872.
Parhaodd yr Hen Goleg yn ganolbwynt gweithgaredd y brifysgol tan y 1960au pan ddechreuwyd y gwaith o ddatblygu campws Penglais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2013