Casgliadau'r llyfrgell: Y difrod wedi'r tân yn fach

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Gedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Achoswyd difrod i dô'r llyfrgell

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn dweud mai bychan yw'r difrod sydd wedi ei wneud i'r casgliadau oedd yn cael eu cadw yno ar ôl i dân ddechrau yn yr adeilad mis Ebrill.

Tra bod y deunyddiau mwyaf arwyddocaol ddim wedi eu dinistrio, mae yna rhai sydd wedi eu llosgi yn gyfan gwbl.

Maent yn cynnwys gof ysgrifau gan Gapel y Tabernacl, Papurau Undeb Cymru a'r Byd, archif y cwmni Acen, papurau yn ymwneud â Phlaid Werdd Cymru a phapurau cyn ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Alun Evans.

Mae'r llyfrgell wedi rhoi gwybod i'r perchnogion.

Y tân

Dechreuodd y tân drwy ddamwain wrth i weithiwr ddefnyddio lamp losgi. Roedd dynion wedi bod wrthi yn gwneud gwaith ar do'r llyfrgell.

Fe gafodd chwe llawr ei effeithio gan y tân mewn un rhan o'r llyfrgell ond fe aeth gweithwyr sydd wedi eu hyfforddi ati i geisio lleihau'r difrod i'r deunyddiau yn gyflym.

Fe symudwyd eitemau megis mapiau, lluniau, llawysgrifau i fan diogel a llwyddwyd i'w hadfer. Gorchuddiwyd silffoedd a dodrefn gan orchuddion plastig hefyd.

Aeth papurau a chofnodion eraill at dîm o arbenigwyr yn Rhydychen er mwyn eu sychu neu eu sychrewi. Mae'r llyfrgell yn ffyddiog y bydd modd dychwelyd y casgliadau i Aberystwyth a hynny mewn cyflwr tebyg i sut oeddent cyn i'r tân gychwyn.

'Cistiau derw'

Dywedodd Avril Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau'r Llyfrgell er bod unrhyw ddifrod yn drist y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn lot gwaeth: "'Rydym yn siomedig iawn fod 140 o gratiau o ddeunydd wedi dioddef difrod gan ddŵr a mwg.

"Serch hynny, i'w roi yn ei gyd-destun, mae 120 o gratiau tebyg o lyfrau yn cyrraedd y Llyfrgell yn wythnosol heb sôn am ddeunyddiau eraill.

"Er mor fawr oedd graddfa'r tân, mae hyn yn tanlinellu sut y bu i ni ddelio â'r sefyllfa. Un rhan fach o'r llawr uchaf yn unig a ddioddefodd ddifrod tân difrifol ac uniongyrchol.

"Hyd yn oed yn yr ardal hon, roedd y llawysgrifau a llyfrau prin a oedd wedi'u cadw'n briodol mewn cistiau derw wedi goroesi heb unrhyw niwed."

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn storio 950,000 o ffotograffau, 30,000 o lawysgrifau, 15km o archifau a 50,000 gwaith celf.

Maent hefyd yn cadw delweddau digidol sydd yn cynnwys 551,300 awr o sain fideo a ffilm a 200,000 o eitemau o archif ITV.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol