Protest yn dilyn honiadau bod Canolfan y Celfyddydau wedi gwahardd aelodau staff
- Cyhoeddwyd
Cafodd rhan o gampws Prifysgol Aberystwyth ei gau fore Sadwrn oherwydd protest oedd yn cael ei chynnal er mwyn dangos cefnogaeth i aelodau staff sydd wedi cael eu gwahardd yn ôl honiadau.
Mae bron i ddwy fil o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar y brifysgol i ganiatáu i uwch-reolwyr Canolfan y Celfyddydau Alan Hewson ac Auriel Martin ddychwelyd i'w gwaith.
Mae hyn yn dilyn honiadau eu bod wedi eu gwahardd ers mis Chwefror.
Dyw'r brifysgol ddim yn fodlon gwneud sylw am yr honiadau fod y ddau wedi eu gwahardd.
Ymddeol
Roedd y brotest yn cyd-fynd gyda diwrnod agored cyntaf y brifysgol, ac roedd gan y bobl oedd yn cymryd rhan arwyddion yn galw am adfer Ms Martin i'w swydd.
Fe wnaeth Mr Hewson gyhoeddi'n ddiweddar ei fod yn ymddeol wedi 28 mlynedd o wasanaeth.
Dywedodd mewn datganiad ei fod wedi mwynhau gweithio yn y ganolfan a diolchodd i'r gynulleidfa "ffyddlon ac ymroddgar".
Mae gan y brifysgol gynlluniau i ailstrwythuro'r ganolfan.
Pryder ymgyrchwyr yw y bydd y rhain yn ei thanseilio ond mae'r brifysgol yn mynnu eu bod eisiau gwarchod a gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013