Taith i gofio 'pentrefi diolchgar'

  • Cyhoeddwyd
Taith Pentrefi Diolchgar
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Medwyn Parry a Dougie Bancroft yn cyflwyno plac i bob un o'r 51 o bentrefi diolchgar

Mae taith unigryw o amgylch 51 o bentrefi diolchgar yng Nghymru a Lloegr wedi dechrau ddydd Sadwrn.

Mae 'pentrefi diolchgar' yn bentrefi heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd i bob milwr aeth i ymladd fod digon ffodus i ddychwelyd yn fyw.

Bydd Medwyn Parry a Dougie Bancroft yn teithio ar feic modur o amgylch y pentrefi, taith fydd yn para naw niwrnod a 2,500 o filltiroedd.

Y gobaith yw casglu £51,000 i'r Lleng Prydeinig, a bydd y daith yn dechrau o un o dri phentref diolchgar yng Nghymru, Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth.

Cyflwyno plac

Bydd y beicwyr yn cyflwyno plac i bob pentref, rhywbeth mae Medwyn Parry yn teimlo sy'n bwysig i goffau'r pentrefi;

"Maen nhw'n ddiolchgar, ond maen nhw'n teimlo fel eu bod nhw'n cael eu gadael allan o beth sy'n mynd ymlaen pan fo pobl yn cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf, achos does dim ffocws yn y pentref, dim neuadd coffa na run cofeb."

Ond mae Mr Parry yn teimlo bod y pentrefi gymaint o ran o'r coffau ac unrhyw bentref arall.

"Dydy o ddim yn deg nad ydyn nhw'n teimlo fel rhan o'r cofio achos eu bod nhw'n ffodus."

"Felly rydym ni'n rhoi plac llechen i bob pentref, i nodi eu bod nhw'n bentref diolchgar, a pan fydd canrif y rhyfel flwyddyn nesaf, bydd ganddyn nhw ffocws, a gallent fod yn rhan o'r digwyddiad."

Dwbl ddiolchgar

Yr ail bentref ar y daith fydd Herbrandston ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Dyma'r unig bentref sy'n 'ddwbl ddiolchgar', lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Ail Ryfel Byd.

O boblogaeth o tua 200 fe aeth 34 o ddynion i frwydro yn y rhyfel mawr, a 32 o ddynion a pedair o ferched i'r Ail Ryfel Byd, ac roedd pob un yn ddigon ffodus i ddychwelyd yn fyw.

Dywedodd Medwyn Parry ei fod wedi cael y syniad yn yr 80au wrth weithio ym mhentref Trecolwyn, a bod yr hanes wedi ei ddiddori ers hynny.

Aeth clwb beiciau modur Aberystwyth ar daith 2 flynedd yn ol, i ymweld â'r tri pentref yng Nghymru er mwyn codi arian i Help for Heroes.

Disgrifiad o’r llun,

Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda'r daith a chodi arian i'r Lleng Brydeinig

Ond wedi sgwrs gyda'i ffrind Dougie Bancroft adeg y Nadolig, penderfynodd y ddau fod angen ymweld â phob un o'r 51 o bentrefi.

Mae'r ddau yn gobeithio cwrdd â nifer o bobl ar eu taith, gan cynnwys perthnasau i rai o'r milwyr ffodus, ac maent yn ymestyn gwahoddiad i unrhyw un hoffai ymuno.

"Caiff unrhyw un ymuno hefo ni, rydyn ni wedi bod yn ffodus, mae Triumph wedi rhoi beiciau i ni fynd ar y daith, hefo blodyn pabi wedi peintio arnynt, maen nhw'n edrych yn ardderchog.

"Rydyn ni'n gofyn i unrhyw un sydd yn ymuno roi £5 bob dydd i bob peiriant sy'n dod ar y daith, i gasglu arian i'r Lleng.

"Mae 'na hefyd olrheiniwr ar un o'r beics, i bobl weld ar y we yn union lle ydyn ni a pha mor gyflym rydyn ni'n mynd!"

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol