'Y 'Steddfod yn ddosbarth canol?'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn gyfarwyddwr corff sy'n hybu twristiaeth yng Nghymru wedi cwestiynu a yw'r Eisteddfod Genedlaethol wedi mynd yn ŵyl sydd ond yn apelio i'r dosbarth canol.
Wrth siarad fel un o'r gwesteion gwadd ar raglen radio Post Cyntaf dywedodd Jonathan Jones, sydd wedi ymddeol o'i waith gyda Croeso Cymru, ei bod hi'n ymddangos bod llai o'r dosbarth gweithiol yn mynd i'r Brifwyl.
"Dw i jest wedi sylwi dros y blynyddoedd gymaint mwy a mwy o geir mawr, crand, drud sydd yn y maes parcio.
"Mae e'n llawn Volvos, Audis, BMWs, Range Rovers y dyddie yma a meddwl ydw i lle mae'r hen lowyr? Lle mae'r hen chwarelwyr? Lle mae'r dosbarth gweithiol?
"A ydyn nhw'n dod i'r Eisteddfod bellach neu ydyn ni yn disgwyl pawb i fod yn ysgolheigion cyn eu bod nhw'n dod i'r Eisteddfod?" meddai.
'Cenhadu'
Er bod y Brifwyl yn gwneud "gwaith bendigedig" yn denu mwy o bobl i'r Maes, gan gynnwys y di-Gymraeg, meddai, roedd angen iddi ac i Eisteddfodwyr selog yrru'r neges bod yna rhywbeth i bawb yn ystod yr wythnos.
"Fy nadl i yw a ydyn ni yn cael y neges yna allan ddigon da? Ac, i ni sydd yn mynd i'r Eisteddfod, ydyn ni yn cenhadu ymhlith y werin bobl?"
Mae'n cydnabod fodd bynnag fod yna gwestiwn ehangach i ofyn sef a yw'r werin bobl yn bodoli erbyn hyn yng Nghymru wedi dirywiad y diwydiannau trwm.
Yn eang
"Ydyn ni yn cyrraedd y werin bobl? Oes yna werin bobl ar ôl yng Nghymru? Dw i ddim yn gwybod."
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Gâr Gethin Thomos, mae apêl yr wyl yn eang a phawb yn y sir yn frwdfrydig.
"... dyna'r dystiolaeth ry'n ni wedi gweld ar hyd a lled y sir 'ma wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn nesaf - taw y werin bobol sy'n cefnogi'n benna' i godi arian ar gyfer y Brifwyl."
Byddai llu o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ar y Maes, meddai, a hynny am bris rhesymol o'i gymharu gyda gwyliau eraill.
"Deunaw punt am ddiwrnod o adloniant ... os ewch chi i gêm rygbi ryngwladol chi'n siarad am awr a hanner i weld weithiau gêm ddifrifol o wael a chi'n talu rhyw drigain punt am hynny.
"Mae pawb yn ca'l cyfle i fod yn yr Eisteddfod a dyna'r apêl sydd yna i bawb gobeithio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2013
- Cyhoeddwyd10 Awst 2013
- Cyhoeddwyd11 Awst 2013