Brocoli yn gwella gwynegon?

  • Cyhoeddwyd
BroccoliFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion cynnar yn awgrymu y gallai bwyta brocoli gadw cyflyrau fel gwynegon a llid y cymalau draw.

Gallai bwyta brocoli arafu effeithiau llid y cymalau neu hyd yn oed ei atal yn llwyr, yn ôl gwyddonwyr.

Ar ôl cynnal profion labordy llwyddiannus, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol East Anglia yn dechrau ar gyfnod o brofi'r llysieuyn ar gleifion er mwyn darganfod faint o les y gall fod mewn gwirionedd.

Mae'r profion cynnar ar gelloedd a llygod yn dangos bod cynhwysyn mewn math arbennig o frocoli sy'n atal cartilag rhag dirywio.

Mae'r brocoli wedi ei ddatblygu i gynnwys mwy o faeth na'r arfer - mae'n groesiad rhwng brocoli cyffredin a math gwyllt o frocoli o Sicily.

Can gram y dydd

Mae Dr Rose Davidson a'i thîm wedi gofyn i wirfoddolwyr - sydd ag arthritis ar eu pen-gliniau - i fwyta can gram o frocoli'r dydd am bythefnos.

Ar ôl pythefnos, bydd profion yn cael eu cynnal arnyn nhw a chleifion na fuodd ar y deiet, er mwyn gweld a oes unrhyw wahaniaeth.

"Alla i ddim â dychmygu y gall e wella athritis, ond mae yn bosibl y gall e ei atal e," meddai Dr Davidson.

Tra bod bwyta'r brocoli dros gyfnod mor fyr â phythefnos yn annhebygol o gael effaith sylweddol, mae Dr Davidson a'i hymchwilwyr o'r farn y gallai unrhyw arwyddion fod y cleifion hynny fuodd yn bwyta'r brocoli wedi elwa fod yn drobwynt pwysig iawn yn eu gwaith ymchwil.

Mae canlyniadau profion Dr Davidson ar anifeiliaid wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Arthritis & Rheumatism.

Cafodd y brocoli arbennig o'r enw Beneforte, ei ddatblygu gyda nawdd gan arian cyhoeddus yn sefydliad ymchwil Bwyd Prydain a Chanolfan John Innes.

Mae mwy na 8.5 miliwn o bobl ym Mhrydain yn byw gyda osteoarthritis sy'n effeithio ar y dwylo, traed, asgwrn cefn, y pen-glin a'r cluniau.