Tyfu llysiau yn y Vetch

  • Cyhoeddwyd
Hen gae'r Vetch yn Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Cyn i'r cynllun ddechrau roedd Cae'r Vetch wedi mynd â'i ben iddo

Mae ysgolion a mudiadau cymunedol yn cael cynnig grantiau i dyfu llysiau eu hunain yn y Vetch, hen gae pêl-droed tîm Abertawe.

Cyngor Abertawe sydd yn cynnig yr arian gyda'r nod i hybu pobl i fwyta yn fwy iach ac i leihau eu bil bwyd.

Mae £50,000 o bunnoedd wedi ei neilltuo ar gyfer y cynllun Tyfu'n Lleol gyda grantiau o rhwng £250 a £5,000 o bunnoedd ar gael i fudiadau ac ysgolion.

Gall yr arian gael ei wario ar amryw o bethau, boed hynny'n dŷ gwydr, yn offer garddio newydd neu yn hadau i'w tyfu.

Bydd y plotiau llysiau yn cael eu tyfu yn yr ardd yn yr hen Vetch.

Dywedodd Sybil Crouch, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer cynaliadwyedd: "Mae'r cynllun Tyfu'n Lleol wedi ei ddyfeisio gyda'r bwriad i annog ein cymunedau i dyfu bwyd eu hunain trwy ariannu ystod eang o brosiectau.

"Y nod yw bod mwy o bobl yn medru bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn y ddinas, yn enwedig pobl ar lefelau incwm isel."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol