Newidiadau i gymorth cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i'w gynlluniau ar gyfer diwygio'r system cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
Mae wedi rhoi'r gorau i'r syniad o roi'r gwaith i gwmnïau sy'n cynnig y pris isaf, ond mi fydd yn parhau gyda thoriadau i faint mae cyfreithwyr yn cael eu talu.
Mae llawer o gyfreithwyr wedi bod yn flin oherwydd newidiadau arfaethedig llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda honiadau y byddai cyflwyno cystadlu am waith cyfreithiol yn arwain at nifer o gwmnïau cyfreithiol bach yn cau.
Ac roedd 'na bryderon am effaith y cynlluniau ar wasanaethau cyfreithiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
£2 biliwn
Mae llywodraeth y DU yn dal eisiau cwtogi £350m y flwyddyn o'r hyn mae'r wlad yn ei wario ar gymorth cyfreithiol, gan honni bod y bil presennol o £2 biliwn yn fwy na all y wlad ei fforddio.
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Times ddydd Iau, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Chris Grayling, bod y penderfyniad i roi'r gorau i'r syniad o roi'r gwaith i gwmnïau sy'n cynnig y pris isaf yn rhan o gytundeb newydd gyda Chymdeithas y Gyfraith yn Lloegr a Chymru.
Ond mae disgwyl arbedion pellach trwy roi uchafswm ar gontractau i gyfreithwyr mewn gorsafoedd heddlu.
Bydd toriad o 17.5% yn yr holl ffioedd cymorth cyfreithiol yn dod i rym yn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012