Trefnu angladd i April Jones

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,

Aeth April ar goll ar 1 Hydref 2012 - ni chafodd ei chorf erioed ei ddarganfod

Mae rhieni April Jones yn trefnu angladd i'w merch, bron i flwyddyn ar ôl iddi gael ei lladd.

Maen nhw'n gobeithio cael caniatâd i gladdu gweddillion ei chorff gafodd eu darganfod yn nhŷ ei llofrudd, Mark Bridger.

Bydd cwest yn cael ei glywed ddydd Llun, lle mae disgwyl y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag os bydd y gweddillion yn cael eu rhyddhau.

Dyw corff April, oedd yn bump oed pan fu farw, erioed wedi cael ei ddarganfod er gwaethaf yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain.

Yn ystod yr angladd, all ddigwydd yn hwyrach ym mis Medi, bydd arch yn cael ei gario trwy'r dref i eglwys leol ar gefn cerbyd wedi ei dynnu gan geffyl.

Mae disgwyl y bydd ei rhieni, Coral a Paul, yn mynychu agoriad y cwest yn Y Trallwng ddydd Llun.

Cafodd Mark Bridger, 47, ei garcharu am oes ym mis Mai am gipio a llofruddio April Jones.