Gobeithio rhyddhau gweddillion corff April Jones

  • Cyhoeddwyd
Mark BridgerFfynhonnell y llun, Julia Quentzler
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Bridger yn euog o gipio a llofruddio April Jones

Mae'r heddlu yn gobeithio y bydd rhieni April Jones yn medru cael peth o weddillion ei chorff cyn hir fel eu bod yn medru cynnal angladd.

Cafodd darnau bach o benglog y ferch bump oed gafodd eu darganfod yng nghartref Mark Bridger eu dal yn ôl yn hytrach na chael eu hanfon i gael eu profi'n fforensig.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew John fod dyletswydd "foesol" ar yr heddlu i sicrhau bod gan ei rhieni Paul, 41 oed, a Coral Jones, 43 oed, o Fachynlleth, Powys, "rywbeth".

'Urddas'

Ychwanegodd fod y ddau wedi dangos "cryfder enfawr, dewrder ac urddas" ac yn haeddu "cau pen y mwdwl ar yr holl beth".

Cafodd Bridger garchar am oes gyfan am gipio a llofruddio April Jones.

Ar ddiwedd yr achos fe ddaeth i'r amlwg bod Bridger wedi dweud wrth offeiriad yn y carchar ei fod wedi taflu corff April Jones i afon.

Roedd y dystiolaeth yna yn destun dadlau cyfreithiol yn ystod yr achos, ac fe benderfynodd y barnwr na ellid defnyddio'r dystiolaeth.

Afon

Bu Bridger yn siarad gyda'r Tad Barry O'Sullivan tra oedd yn aros i sefyll ei brawf yng ngharchar Manceinion.

Ni ddywedwyd wrth y llys at ba afon yr oedd yn cyfeirio, ond y gred yw mai Afon Ddyfi yr oedd, ger y lle y cafodd ei arestio.

Er gwaethaf yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd Prydain, nid yw corff April wedi cael ei ddarganfod.

Daeth y chwilio am y corff i ben ddiwedd mis Ebrill.