Pobl hŷn: 'Angen gwelliannau pellach'

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rochira
Disgrifiad o’r llun,

Er rhai gwelliannau, mae Sarah Rochira yndweud bod angen gwneud mwy i sicrhau gofal gwell i bobl hŷn

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw am sicrhau gwelliannau pellach mewn gofal i bobl hŷn.

Mewn adroddiad,, mae Sarah Rochira yn cydnabod bod nifer o welliannau wedi bod mewn gofal ers arolwg i'r sefyllfa dwy flynedd yn ôl.

Er hynny, mae'r Comisiynydd yn dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau bod "pobl hŷn yn ysbytai Cymru'n cael eu trin ag urddas a pharch".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gwelliannau wedi bod yn y sustem a'u bod yn cydnabod fod yna fwy i'w wneud.

Dywedodd eu bod yn croesawu'r ffaith fod adroddiad y Comisiwn hefyd yn cydnabod y 'gwaith positif' sydd wedi ei wneud gan y Gwasanaeth Iechyd.

"Rydym yn gwybod fod yna fwy i'w wneud ac rydym yn parhau i gynnig gwelliannau."

Gwelliannau

Mae'r adroddiad diweddaraf yn dilyn adolygiad cafodd ei gyhoeddi yn 2011, pan gafodd cynlluniau gweithredu eu creu gan fyrddau iechyd, Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Comisiynydd yn dweud ei bod hi wedi gweld gwelliant ers yr adolygiad hwnnw, ond ei bod hi hefyd wedi cwrdd â chleifion yn cwyno am ofal "dychrynllyd".

"Rwyf wedi casglu tystiolaeth am amrywiaeth o gamau sy'n cael eu cymryd gyda'r nod o wella gofal i gleifion ac maent yn cael effaith bositif mewn llawer o achosion," meddai Ms Rochira.

"Fodd bynnag, rhaid i'r GIG yng Nghymru'n awr drosi'r camau hynny'n ganlyniadau gwell i'r holl gleifion hŷn ym mhob rhan o Gymru ar lefel ward, ac yn enwedig mewn meysydd allweddol fel dementia a gofal ymataliaeth.

" Mae tystiolaeth bendant sy'n dangos bod hyn yn digwydd, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud eto."

Eithriadol

Mae Sarah Rochira yn dweud bod angen creu diwylliant newydd o fewn y gwasanaeth iechyd, sy'n "gwrthod derbyn na goddef gofal gwael ac sy'n credu bod methiant i ddysgu'n annerbyniol"

"Ar ei orau, mae gofal iechyd yng Nghymru'n eithriadol, ac mae gennym lawer o staff gofal iechyd ymroddedig, ond eto, yn rhy aml, nid ydym yn llwyddo i gael yr hanfodion yn iawn ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a'u teuluoedd," ychwanegodd.

"Ar ei orau, mae gofal iechyd yng Nghymru'n eithriadol, ac mae gennym lawer o staff gofal iechyd ymroddedig, ond eto, yn rhy aml, nid ydym yn llwyddo i gael yr hanfodion yn iawn ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a'u teuluoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol