Haint: Archwiliadau dirybudd ysbytai
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr yn cynnal yr arolwg mwyaf erioed i edrych ar heintiadau sy'n cael eu dal mewn gofal iechyd yng Nghymru.
Fe ddaw arolwg 'Bugwatch' yn dilyn adroddiad beirniadol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i heintiadau o'r fath yn gynharach eleni.
Bydd y timau yn cynnal nifer o arolygon yn ddirybudd yn y tri ysbyty cyffredinol yng ngogledd Cymru, sef Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Nod y timau fydd hyrwyddo gwell ffyrdd o atal a rheoli heintiadau mewn ysbytai. Mae gan Gynghorau Iechyd Cymuned Cymru'r hawl i fynd i ysbytai heb roi rhybudd a gwneud archwiliadau.
'Cywiro problemau'
Dywedodd Pearl Roberts, arweinydd grŵp ymweld a monitro CIC Betsi Cadwaladr:
"Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gywiro unrhyw broblemau y deuwn o hyd iddynt gan gynnal archwiliadau pellach ar hap yn y dyfodol.
"Un o brif amcanion Bugwatch yw annog cleifion i deimlo'n gyfforddus drwy godi unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda'r staff."
Yn ystod 2013 mae clostridium difficile, neu C.diff, wedi ei gynnwys ar dystysgrifau marwolaeth saith o bobl, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud bod graddfa achosion o C.diff yng Nghymru yn gostwng, ond mae mwy'n cael eu heintio yn ysbytai gogledd Cymru nag mewn rhannau eraill o'r wlad.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro yn sgil adroddiad oedd yn beirniadu eu hymateb i gyfres o achosion yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng Ionawr a Mai.
Ychwanegodd Gordon Donaldson, cadeirydd CIC Betsi Cadwaladr: "Bydd Bugwatch yn dangos i'r cyhoedd y pwerau sydd gan y Cynghorau Iechyd Cymuned, a'r gallu i wneud gwahaniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2013