Disgwyl cannoedd yn angladd April

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Iau bydd angladd April Jones yn cael ei chynnal

Bydd angladd April Jones, y ferch 5 oed o Fachynlleth gafodd ei chipio a'i llofruddio, yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.

Cafodd April ei chipio wrth iddi chwarae ger ei chartref ar Stad Bryn-y-Gog bron i flwyddyn yn ôl.

Mae disgwyl cannoedd o bobl yn yr angladd, ac mae teulu April wedi gofyn iddyn nhw wisgo dillad pinc, ei hoff liw, er cof amdani.

Mae'r Parchedig Kathleen Rogers wedi dweud y bydd y rhoddion sy'n cael eu rhoi yn ystod yr angladd yn cael eu defnyddio i noddi merch yn Affrica.

Angladd April

Cafodd April Jones ei herwgipio a'i llofruddio tra roedd hi yn chwarae yn agos i'w thy ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth.

Er y chwilio amdani, ni ddaeth yr heddlu o hyd iddi.

Ond cafwyd hyd i rhai o'i gweddillion yn nhŷ dyn 47 oed, Mark Bridger.

Ym mis Mai cafodd o ei garcharu am oes am ei llofruddio a'i chipio.

Ddydd Iau bydd angladd y ferch fach yn cael ei chynnal yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Parchedig Kathleen Rogers bod yr angladd yn rhan bwysig o'r broses o alaru

Bydd arch April yn cael ei gludo o'i chartref i Eglwys Pedr Sant am 12.00pm.

Kathleen Rogers fydd yn arwain y gwasanaeth, ac mae hi yn dweud y bydd y rhoddion yn mynd at yr elusen World Vision er mwyn noddi merch fach:

"Bydd merch bump oed mewn pentref yn Uganda yn cael ei noddi gan y plwyf tan y bydd hi yn gorffen ei haddysg.

"Bydd rhoddion ychwanegol yn anrheg i'r ferch, ei theulu a'r pentref i ddefnyddio pan fo angen.

"Bydd y plwyf yn derbyn newyddion cyson amdani a lluniau ohoni wrth iddi dyfu i fod yn ferch ifanc.

"Mewn ymgais i weld rhyw fath o ddaioni yn dod o'r trasiedi yma, rydyn ni wedi penderfynu noddi merch fach yn Uganda er cof am April."

'Normalrwydd yn ôl i'r dref'

Mae disgwyl cannoedd i fynychu'r angladd a byddant yn gwisgo lliwiau llachar neu binc am mai dyna oedd hoff liw April Jones. Bydd balwns hefyd yn cael eu rhyddhau ar ddiwedd y gwasanaeth:

"Mae angladd yn rhan bwysig o'r broses o alaru ac mi fydd yr angladd ar gyfer April fach yn hyd yn oed fwy pwysig i'r teulu am nad oedd hi yn ymddangos yn bosib y byddai modd cynnal gwasanaeth tan y cwest bythefnos yn ol."

"Rydyn ni yn gweddio y bydd hwn yn fan cychwyn iddyn nhw ddechrau'r daith hir a phoenus er mwyn medru gwella.

"Dw i hefyd yn credu y bydd yn rhoi caniatad i'r gymuned ddod a rhyw fath o normalrwydd yn ôl i'r dref."