Angladd April Jones ddiwedd Medi
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwrandawiad yn paratoi'r ffordd i rieni April, Paul a Coral Jones, drefnu angladd eu merch
Bydd angladd April Jones yn cael ei gynnal ar Fedi 26.
Ddydd Llun roedd gwrandawiad fel bod modd i'r crwner gyhoeddi tystysgrif marwolaeth.
Cadarnhaodd yr heddlu y byddai gweddillion y ferch bum mlwydd oed yn cael eu rhyddhau'n swyddogol i'r teulu.
Dywedodd y crwner Louise Hunt nad oedd hi'n gallu dod i unrhyw gasgliad gwahanol i'r hyn oedd wedi'i gyflwyno yn yr achos llys.
Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at rieni April i egluro penderfyniad y llys.
Roedd y gwrandawiad yn Siambr y Cyngor yn y Trallwng ac wedi'i gwblhau mewn 10 munud.
Aeth April ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.
Ym mis Mai eleni cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am ei chipio a'i llofruddio.
Fydd o byth yn cael ei ryddhau o'r carchar.

Ni chafodd corff April ei ddarganfod er gwaetha' ymdrech chwilio fawr
Olion asgwrn
Dyw corff y ferch fach erioed wedi cael ei ddarganfod er gwaethaf yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain.
Ond llwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddarganfod olion bychain o asgwrn yng nghartre' Bridger.
Mae adroddiadau y bydd cais i alarwyr yn yr angladd wisgo pinc, hoff liw April.
Wedi'r gwrandawiad, dywedodd y crwner Louise Hunt ei bod yn gobeithio y byddai'n rhoi rhywfaint o gysur i'r teulu.
"Rwy'n cydymdeimlo â chi yn eich colled ofnadwy," meddai.
"Fydd yna ddim rhagor o wrandawiadau ffurfiol ac rwy'n gobeithio y bydd diwedd hyn yn rhoi amser i chi ddelio gyda'ch galar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2013
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013