Cannoedd yn dod i ffarwelio ag April Jones

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedig Kathleen Rogers:
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Parchedig Kathleen Rogers bod y gwasanaeth yn ddathliad o fywyd April

Daeth cannoedd o alarwyr i Eglwys San Pedr ym Machynlleth ar gyfer angladd April Jones, gyda llawer yn gwisgo rhubanau neu ddillad pinc ar gais teulu'r ferch bump oed.

Cafodd April Jones ei herwgipio a'i llofruddio tra roedd hi yn chwarae yn agos i'w thŷ ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth.

Er y chwilio amdani, ni ddaeth yr heddlu o hyd iddi.

Ond cafwyd hyd i rhai o'i gweddillion yn nhŷ dyn 47 oed, Mark Bridger.

Ym mis Mai cafodd o ei garcharu am oes am ei llofruddio a'i chipio.

'Teyrnged olaf'

Dywedodd y Parchedig Kathleen Rogers wedi dweud y bydd y rhoddion sy'n cael eu rhoi yn ystod yr angladd yn cael eu defnyddio i noddi merch yn Affrica.

Disgrifiad o’r llun,

Mae torchau o flodau eisoes wedi eu gadael fel teyrnged i April Jones yn Eglwys San Pedr

Dywedodd un o'r bobl oedd yn yr eglwys ddydd Iau: "Rydym yma er mwyn teulu April heddiw. Maen nhw wedi bod trwy gymaint ac mae'r dref am roi'r deyrnged olaf gan obeithio y bydd hyn yn gyfle i symud ymlaen."

Wrth i'r orymdaith adael cartref Paul a Coral Jones, roedd y ddau yn gwisgo pinc.

Roedd dros gant o bobl yn dilyn yr orymdaith angladdol trwy'r dref y tu ôl i gerbyd gwyn yn cael ei dynnu gan ddau geffyl llwydlas.

Roedd yr arch wen y tu mewn i'r cerbyd, ac roedd gan y ddau geffyl rubanau gwyn am eu pennau.

Wrth i'r orymdaith fynd heibio'r bobl oedd wedi ymgynnull ar hyd ochr y ffordd, roedd llawer yn eu dagrau.

Ymhlith y rhai oedd yn gwylio roedd y timau achub mynydd a badau achub fu'n cynorthwyo yn y chwilio am April pan aeth ar goll ym mis Hydref y llynedd.

Y tu mewn i'r eglwys roedd torchau o flodau pinc wedi cael eu gosod ynghyd â llyfr coffa er mwyn i bobl ysgrifennu teyrngedau.

Yn yr eglwys roedd mam April, Coral Jones, i'w chlywed yn llefain wrth gerdded i'r blaen gyda'i gwr Paul a brawd a chwaer April Harley a Jazmin.

Wrth iddyn nhw gerdded dangoswyd cyfres o ddelweddau o April ar sgrin fawr - delweddau o gasgliad y teulu - gyda cherddoriaeth gan Emily Sande i'w chlywed yn y cefndir.

Cafodd y montage ei greu gan Jazmin fel rhan o'i gwaith TGAU.

Clywodd y gynulleidfa dau ddarn o farddoniaeth, gan gynnwys un a ddarllenwyd gan Sian Calban, oedd yn athrawes i April yn yr ysgol gynradd.

Y Parchedig Kathleen Rogers oedd yn arwain y gwasanaeth, ac fe ddywedodd mai gwasanaeth i ddathlu bywyd byr April oedd yr angladd.

Ond ychwanegodd: "Mae'n achlysur chwerw-felys gan fod ein breuddwydion a'u dyheadau wedi newid gan ei bod wedi ei chymryd oddi wrthym.

"Ond byddwn yn ddiolchgar am yr amryw ffyrdd y newidiodd April ein bywydau, a chyffwrdd bywydau llawer ohonom."

Eisteddodd tua 300 o alarwyr yn yr eglwys i glywed y geiriau gyda nifer yn amlwg dan deimlad o glywed ei geiriau.