Gwrthod ymchwiliad cyhoeddus i achos Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi gwrthod ceisiadau am ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y deliodd Heddlu'r De gyda'r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White.
Roedd yna bwysau ar Theresa May i ymchwilio ymhellach ar ôl i'r achos llys mwyaf i ddelio â llygredd o fewn yr heddlu yng ngwledydd Prydain ddod i ben yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd wyth o gyn-blismyn Heddlu'r De eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol i'r llofruddiaeth yn nociau Caerdydd yn 1988.
Daeth yr achos yn i ben yn 2011 ar ôl i'r llys glywed bod rhai dogfennau wedi'u dinistrio gan yr heddlu yn ystod eu ymholiadau.
"Rhy gostus"
Nawr mae'r BBC yn deall bod yr Ysgrifennydd Cartref yn derbyn dadleuon Heddlu'r De. Mae nhw wedi dadlau y byddai ymchwiliad o'r fath yn cymryd blynyddoedd i'w gwblhau, yn costio miliynau o bunnoedd ac mai ychydig o fudd fyddai yna i'r cyhoedd.
Mae cyfreithwyr y tri dyn o Gaerdydd gafodd eu carcharu ar gam am lofruddio Lynette White yn bwriadu herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys ym mis Tachwedd.
Dywedodd Matthew Gold, cyfreithiwr Stephen Miller, un o'r tri, nad oedd penderfyniad Mrs May yn un rhesymegol:
"Esgeulustod difrifol"
"Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi methu ystyried ymchwiliad mwy penodol fyddai'n golygu llai o gostau. Mae hyn yn esgeulustod difrifol".
Yn gynharach eleni cafodd dau adroddiad eu cyhoeddi i'r hyn achosodd i'r achos llygredd ddod i ben.
Daeth yr adroddiadau i'r casgliad mai prosesau a gweithredoedd oedd ar fai yn hytrach nac unigolion.
Mae'r adroddiad gafodd ei baratoi ar ran y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi arwain at newidiadau i'r modd y mae tystiolaeth yn cael ei datgelu.
Dogfennau
Daeth yr adroddiad arall gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu i'r casgliad nad oedd unrhyw blismon wedi camymddwyn mewn cysylltiad â dogfennau a oedd yn ganolog i'r achos.
Y grêd yn wreiddiol oedd bod y dogfennau wedi eu dinistrio. Ond fe ddaethon nhw i'r fei ar ôl i'r achos llygredd ddod i ben yn 2011.
Mae'r Ysgrifenydd Cartref yn derbyn bod yna gwestiynau sydd yn dal heb eu hateb ond dyw hi ddim yn gweld cyfiawnhad dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi penderfynu na ddylid cynnal ymchwiliad neu adolygiad pellach i mewn i ddiwedd achos 2011.
"Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn adolygu ei phenderfyniad pan fydd ymchwiliad cysylltiedig, sy'n cael ei gynnal gan Heddlu Dyfnaint a Chernyw ar ran Heddlu De Cymru, yn dod i ben."
Cwynion eraill
Yn ogystâl â'r tri gafodd eu carcharu ar gam, mae'r cyn-blismyn a'r unigolion eraill gafodd eu cyhuddo o ddweud celwydd ar lŵ a gwyrdroi cwrs cyfiawnder hefyd wedi cwyno ynglŷn â'r modd y mae Heddlu'r De wedi delio gyda'r achos.
Mae disgwyl i adroddiad i 398 o gwynion gael eu cyflwyno i Peter Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu'r De ym mis Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011