Cyflwyno cais cynllunio carchar

  • Cyhoeddwyd
Carchar Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r carchar newydd

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyflwyno cais cynllunio amlinellol i godi carchar ar gost o £250 miliwn ger Wrecsam.

Cafodd manylion y cynllun eu cyflwyno i Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam.

Yno bydd 2,000 o garcharorion ac mae disgwyl iddo agor ymhen pedair blynedd.

Fe fydd y datblygiad ar hen safle ffatri Firestone ar 76,000 metr sgwâr a'r amcangyfrif yw y bydd 760 o bobl yn gweithio yn y carchar.

Ymgyrch

Dywedodd y weinyddiaeth y byddai'r carchar yn cael ei adeiladu i safonau Categori B er mai carcharorion Categori C fydd yno, "carcharorion nad oes modd ymddiried ynddyn nhw mewn carchar agored ond sydd heb yr ewyllys na'r adnoddau i wneud ymgais i ddianc".

Eisoes mae pobl sy'n byw gerllaw'r safle wedi dechrau ymgyrch i geisio atal y datblygiad.

Fe fydd proses ymgynghori ffurfiol cyn y bydd cynghorwyr Wrecsam yn penderfynu ar y cais.

Mae modd gweld y cais cynllunio ar wefan Cyngor Wrecsam, dolen allanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol