Rhanbarthau rygbi: 'Angen dod i gytundeb'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Undeb Rygbi Cymru yn rhybuddio bod y gêm yng Nghymru yn wynebu dyfodol du iawn oni bai fod y ffrae dros rygbi Ewropeaidd yn cael ei ddatrys.
Mae clybiau Lloegr a Ffrainc yn bwriadu gadael y Cwpan Heineken y flwyddyn nesaf a sefydlu cystadleuaeth newydd.
Mae BBC Cymru yn deall fod rhanbarthau Cymru am wybod beth yn union fydd yn digwydd cyn iddynt arwyddo cytundeb canolog newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.
Roedd cytundeb i fod i gael ei arwyddo gan y ddwy ochr cyn 2014.
"Oni bai bod hynny'n digwydd does yna ddim sicrwydd o ran dyfodol y rhanbarthau na chwaith yr undeb," meddai Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.
Hwb ariannol
Yn ôl Mr Lewis byddai'r undeb yn rhoi hwb ychwanegol o £1 miliwn i'r rhanbarthau unwaith i'r cytundeb gael ei arwyddo.
Drwy ei arwyddo, mae'r rhanbarthau yn cytuno pa gystadlaethau y byddant yn chwarae ynddynt, faint o chwaraewyr o dramor a ganiateir ym mhob tîm a faint o arian bydd yr undeb yn eu talu.
Byddai'r arian ar gael i'r Gleision, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets er mwyn ceisio cadw'r chwaraewyr gorau rhag symud o Gymru.
Ar raglen Scrum V y BBC dywedodd Mr Lewis y byddai rygbi rhanbarthol yn dirwyn i ben pe na bai'r clybiau yn arwyddo cytundeb newydd.
Ond dywedodd ei fod yn deall fod y rhanbarthau yn wynebu problemau, gan fod angen iddynt wybod pa gystadlaethau oedd ar gael y tymor nesa cyn iddynt arwyddo unrhyw beth.
"Mae angen i bawb fod a chynllun busnes, ac yna i reoli menter a risg yn ôl y cynllun hwnnw."
"Mae'r Gleision wedi cymryd risg, maen nhw wedi arwyddo Gethin Jenkins a gosod cae newydd, a dwi'n meddwl bod angen i'r trafodaethau am rai chwaraewyr gael eu datrys mor fuan â phosib.
Ond rhybuddiodd y gall fod peryglon mawr os na fyddai'r rhanbarthau yn arwyddo cytundeb newydd.
"Byddai hynny'n golygu na fyddant yn chwarae yn Ewrop nac yng nghystadleuaeth Rabo (Pro 12).
"Fyddai yna ddim arian o goffrau'r undeb, byddai'r undeb ddim yn talu yswiriant ar gyfer chwaraewyr a byddai yna ddim dyfarnwyr."
Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r rhanbarthau, eisiau eglurhad ynglŷn â beth fyddai'n digwydd i daliadau'r Undeb pe bai clybiau Lloegr a Ffrainc yn penderfynu troi eu cefn ar gwpan Heineken.
Mae ganddyn nhw hefyd bryderon am gynllun yr undeb i arwyddo cytundebau canolog gyda chwaraewyr tîm rhyngwladol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd25 Medi 2013
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013