Cynllun BBC a Chyngor y Celfyddydau 'yn hwb i gerddorion'
- Cyhoeddwyd
Nos Wener bydd BBC Cymru Wales a Chyngor y Celfyddydau yn cyhoeddi cynllun ar y cyd fydd "yn hwb i gerddorion" sy'n gweithio yn Gymraeg a'r Saesneg.
Bydd y ddau gorff yn ariannu cynllun o'r enw Gorwelion dros y ddwy flynedd nesaf gyda'r nod o ddatblygu doniau cerddorol a rhoi llwyfan i gerddoriaeth gyfoes mewn digwyddiadau a thrwy wasanaethau radio cenedlaethol BBC Cymru.
Bydd yr arian sydd yn cael ei wario mewn tair ffordd :-
Seiniau 2014 - cynllun i dynnu sylw at 12 artist neu berfformiwr o Gymru sydd heb arwyddo gyda label recordio;
Cronfa Lansio - cynnig grantiau unigol o hyd at £5,000 i artistiaid o Gymru i dalu am gyfarpar, amser ymarfer, costau teithio a chostau tebyg;
Digwyddiadau - bydd gorsafoedd BBC Radio Cymru a Radio Wales yn darlledu cerddoriaeth fyw o dros 10 o wyliau neu ddigwyddiadau mawr ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn.
'Disgleirio'
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Bydd y cynllun hwn yn lansio doniau cerddorol mwyaf cyffrous ac addawol Cymru.
"Mae'n llawer iawn mwy na chronfa - mae'n rhoi cyfle i'r talentau sy'n dod i'r amlwg i ddisgleirio, cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
"Mae gan BBC Cymru draddodiad o ddod o hyd i'r artistiaid mwyaf addawol yn Gymraeg a Saesneg a'u hyrwyddo.
"Ar hyn o bryd, mae poblogrwydd cerddoriaeth o Gymru yn ffynnu gydag artistiaid fel The Joy Formidable, Yr Ods a Georgia Ruth yn mynd o nerth i nerth.
'Rhagoriaeth'
"Mae'r bartneriaeth hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn dangos ein bod wedi ymrwymo i gefnogi rhagoriaeth artistig ledled Cymru."
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi: "Rydyn ni'n falch iawn o ddatblygu ein partneriaeth gyda BBC Cymru.
"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cerddoriaeth wych ar draws pob genre fel y gwelir gyda chynnal WOMEX.
"Yn sicr, mae Gorwelion yn adeiladu ar hyn drwy feithrin a chefnogi talentau cynnar.
"Bydd yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth gyfoes o Gymru gyrraedd cynulleidfaoedd drwy ddigwyddiadau byw a darlledu, gan sicrhau bod doniau gorau heddiw a'r dyfodol, o bob cwr o Gymru, yn cael eu cefnogi yn 2014."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013