Americanes yn ennill Gwobr Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Claire Vaye Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r straeon byr yn adrodd hanes dyn sy'n mynd ar siwrne bersonol wedi iddo ddarganfod rhywbeth ar ochr y ffordd...

Awdures o'r Unol Daleithiau, Claire Vaye Watkins, sydd wedi cipio Gwobr Dylan Thomas.

Cyhoeddwyd enillydd y wobr £30,000 mewn seremoni wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe nos Iau.

Roedd cyfres o straeon byrion yn y gyfrol Battleborn, gan yr awdures o Galifornia, yn ddewis unfrydol gan y beirniaid.

Y rhai oedd yn penderfynu oedd cadeirydd Gwobr Dylan Thomas, Peter Stead, cyflwynydd cerddoriaeth BBC 6 y gantores Cerys Mathews, a sefydlydd Gŵyl y Gelli, Peter Florence.

'Y restr fer gryfaf'

Dywedodd Peter Stead: "Y flwyddyn hon oedd â'r rhestr fer gryfaf rydym erioed wedi ei weld.

"Rydym yn edmygu'r llyfrau i gyd ac fe drafodwyd eu cynnwys am amser maith.

"Roedd yna nifer o lyfrau yn cystadlu am y wobr ond Battleborn oedd y dewis unfrydol."

Roedd y rhestr fer yn cynnwys tair nofel, dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol o straeon byr.

Ychwanegodd Cerys Matthews: "Mae'r llyfr yn eich gadael yn edrych ymlaen at weld be fydd yn dod nesaf gan yr awdures eithriadol yma."

Y Gorllewin Gwyllt

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Thomas yn cael ei gofio am ei farddoniaeth - efallai mai Under Milk Wood yw ei waith fwyaf enwog

Ym mheithdir Nevada mae cyfrol Claire Watkins, 29, wedi ei lleoli gan edrych ar fywyd Gorllewin America.

Canolbwynt un stori yw dyn sy'n darganfod nifer o lythyrau, lluniau a thabledi wedi eu gadael ar ochr y ffordd.

Mae'r broses o ysgrifennu tuag at y dyn a'u gadawodd yn achosi poen, wrth iddo orfod wynebu'r gwirionedd amdano ei hun.

Mewn stori arall mae hanes chwiorydd yn ceisio cysuro ei gilydd wedi i'w mam ladd ei hun.

Mae'r wobr ar agor i unrhyw awdur sydd wedi cyhoeddi gwaith yn yr iaith Saesneg sy'n iau na 30 oed.

Etifeddiaeth Dylan

Bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i waith gorau tra yn ei ugeiniau.

Daw'r cyhoeddiad fel uchafbwynt wythnos o weithgareddau lle bu i'r saith awdur ar y rhestr fer ymweld ag ysgolion a cholegau ar draws Cymru yn rhoi darlleniadau ac yn cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu creadigol.

Cafodd y wobr er cof am y bardd ei rhoi gyntaf yn 2006, a Cymraes oedd yn fuddugol - Rachel Trezise o'r Rhondda.

Ers hynny mae Nam Le o Fietnam, Elyse Fenton o'r Unol Daliaethau, Lucy Caldwell o Ogledd Iwerddon a Maggie Shipstea - hefyd o Galifornia - i gyd wedi ennill y wobr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol