Dathlu cyfraniad Dylan

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cynhelir y gweithdy cyntaf yng Nghaerdydd fore Mercher

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnal y cyntaf o 2000 o weithdai yn ddiweddarach fel rhan o Ŵyl Dylan Thomas 100 i nodi canmlwyddiant geni'r bardd a llenor.

Nod gweithdai cynllun 'Dylanwad' - fydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg rhwng nawr a Gorffennaf 2014 - yw rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio geiriau Dylan Thomas i archwilio'u creadigrwydd eu hunain.

Bydd y gweithdai ar gyfer plant rhwng 7-16 oed, ac fe fydd y cyntaf yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd fore Mercher.

'Cyffroi plant'

Arweinydd y gweithdy cyntaf fydd yr awdur Cynan Jones, ac fe ddywedodd:

"Nifer fechan o awduron sy'n ysgrifennu am blentyndod cystal â Dylan Thomas. Gobeithio, gan ddefnyddio'i waith, y bydd prosiect Dylanwad yn cyffroi plant drwy ddarllen a'u hatgoffa i barhau i weld y byd drwy eu llygaid eu hunain.

"Efallai y bydd hefyd yn sbarduno plant i ddechrau ysgrifennu pethau i lawr eu hunain, ac yn fwy na dim gobeithiaf y gallaf atgoffa'r rhieni sy'n cymryd rhan yn y gweithdai am fywiogrwydd llyfrau a'r hyn y gallwn ni elwa oddi wrthynt."

Caiff cynllun Dylanwad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis:

"Mae datblygu diddordeb mewn llenyddiaeth yn gynnar ym more oes yn rhan annatod o ysbrydoli ein pobl ifanc i ysgrifennu a chreu eu straeon eu hunain.

"Mae llythrennedd yn sgil angenrheidiol drwy gydol bywyd person, ac mae'n hynod bwysig ein bod yn datblygu a mireinio'r sgil hwnnw.

"Am y rheswm hwnnw, gwella safonau llythrennedd sydd wrth wraidd codi safonau a pherfformiad yma yng Nghymru."

Pecynnau addysgu

Bydd pob gweithdy yn para awr, ond rhan o gynllun Dylanwad yn unig yw'r gweithdai, ac fe fydd hefyd yn cynnwys sioe deithiol ryngweithiol, cystadleuaeth ryngwladol fawreddog a digwyddiadau byw ar-lein.

Dywedodd prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru Lleucu Siencyn:

"Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu'n gryf mewn annog plant a phobl ifanc i godi eu lleisiau a dweud eu straeon.

"Rydym yn falch iawn y bydd ystod eang o awduron newydd a sefydledig yn cyflwyno'r gweithdai hyn mewn ysgolion, a bydd pecynnau addysgu a grëwyd gan Canolfan Peniarth yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol a syniadau i'w datblygu at ddefnydd athrawon ar ôl ymweliad yr awdur."

Bydd y gweithdy cyntaf yn Ysgol Fitzalan, Caerdydd am 9:00am fore Mercher, Hydref 9.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol