Ian Watkins yn euog o geisio treisio babi
- Cyhoeddwyd
Mae Ian Watkins, canwr y grŵp roc o Gymru Lostprophets, wedi pledio'n euog i gyfres i droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys un o geisio treisio babi.
Yn flaenorol roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau'n llwyr.
Roedd yr achos yn erbyn Watkins, 36 oed o Bontypridd, i fod i ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth ynghyd â'r achos yn erbyn dwy fenyw.
Plediodd Watkins yn euog i geisio treisio ac ymosodiad rhyw ar blentyn o dan 13 oed ond yn ddieuog i dreisio.
Derbyniodd yr erlyniad y ple. Bydd Watkins a'r ddwy fenyw'n cael eu dedfrydu ar Ragfyr 18.
'Pidoffeil penderfynol'
Dywedodd yr erlynydd Chris Clee QC wrth y llys: "Ian Watkins oedd prif ganwr grŵp llwyddiannus o'r enw Lostprophets.
"Mae'n derbyn ei fod yn bidoffeil penderfynol."
Plediodd Watkins hefyd yn euog i dri chyhuddiad o ymosod rhywiol yn ymwneud â phlant a chwe chyhuddiad yn ymwneud â chreu delweddau anweddus o blant a bod â delweddau o'r fath yn ei feddiant.
Cyfaddefodd i un cyhuddiad yn ymwneud â delwedd bornograffig eithafol.
Daeth y dystiolaeth yn erbyn y diffynnydd o gyfrifiaduron, gliniaduron a ffonau symudol.
Clywodd y llys fod Watkins wedi ffilmio a chadw digwyddiadau o gam-drin a bod yr heddlu wedi dod o hyd i'r ffeiliau.
'Plant eu hunain'
Wrth gyfeirio at y ddwy fenyw oedd yn y doc dywedodd Mr Clee: "Fe wnaeth y ddwy fenyw gam-drin eu plant eu hunain yn rhywiol a'u rhoi nhw ar gael fel y byddai Watkins yn eu cam-drin."
Clywodd y llys fod y cam-drin yn amlwg o ddarllen negeseuon testun y tri diffynnydd.
Clywodd y gwrandawiad fod Watkins yn bwriadu "dysgu'r" babanod sut i gymryd cyffuriau.
Ychwanegodd Mr Clee fod cyffuriau wedi chwarae "rhan sylweddol yn ei droseddau yn erbyn plant".
Daeth yr heddlu o hyd i gocên, meth a GHB wrth chwilio eiddo yn ystod yr ymchwiliad.
Plediodd un fenyw, Menyw A, yn euog i geisio treisio babi ar ôl gwadu treisio a dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ynghyd â chymryd a dosbarthu llun anweddus o blentyn.
Plediodd Menyw B yn euog i gynllwynio i dreisio plentyn, tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol a phedwar o wneud delweddau anweddus, eu dosbarthu neu bod â nhw yn ei meddiant.
Ar ôl clywed dadleuon cyfreithiol y ddau fargyfreithiwr, galwodd y barnwr Mr Ustus Royce y rheithgor i'r llys a dweud wrthyn nhw: "Ni fydd achos llawn yn cael ei gynnal yn yr achos yma. Mae'r diffynyddion wedi pleidio'n euog i bron pob un o'r cyhuddiadau yn eu herbyn. Nid yw'r erlyniad am fwrw 'mlaen gydag achos o dan yr amgylchiadau yma.
"Rydych wedi osgoi gorfod gwylio deunydd trallodus a graffig iawn."
'Rhy ifanc i ddeall'
Ar ddiwedd y gwrandawiad ddydd Mawrth dywedodd Catrin Evans, Pennaeth Uned Achosion Cymhleth i Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru: "Mae'r tri diffynnydd yn yr achos hwn wedi cyfaddef i droseddau difrifol iawn gafodd eu cyflawni yn erbyn plant ifanc iawn, gan arddangos ecsploetio rhywiol ar ei waethaf.
"Mae nifer o'r dioddefwyr yn rhy ifanc i ddeall beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, ac eto fe wnaeth y diffynyddion eu hecsbloetio er mwyn eu pleser eu hunain.
"Mae achos yr erlyniad yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a ddatgelwyd gan ein tîm ymchwilio ni ac Uned Droseddau Technegol Heddlu De Cymru.
"Roedd y cydweithio rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu yn ffactor pwysig iawn yn y pleon euog yma heddiw."
'Tystiolaeth syfrdanol'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Peter Doyle o Heddlu'r De: "Mae'r ymchwiliad wedi datgelu'r dystiolaeth fwyaf trallodus a syfrdanol o gam-drin i mi weld erioed.
"Does dim amheuaeth yn fy meddwl i fod Ian Watkins wedi ecsploetio'i statws er mwyn cam-drin plant ifanc iawn.
"Mae canlyniad heddiw yn sicrhau bod cyfiawnder wedi ei weinyddu yn achos y tri oedd yn euog.
"Mae dau blentyn ifanc iawn wedi cael dyfodol fyddai fel arall wedi cael ei gymryd oddi wrthyn nhw.
"Mae'r ymchwiliad wedi bod yn gymhleth a heriol iawn ac roedd gwybodaeth allweddol a thystiolaeth gan dystion ar draws y byd."
Ychwanegodd nad oedd pleon Watkins a'r ddwy fenyw yn ddiwedd ar yr ymchwiliad ac y byddai'r heddlu yn gweithio'n ddiflino i ddod o hyd i droseddwyr neu ddioddefwyr eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012